Trafod anghenion iechyd y canolbarth

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Bronglais
Disgrifiad o’r llun,
Ysbyty Bronglais

Mae pobl y canolbarth wedi bod yn dweud eu dweud am ddarpariaeth y gwasanaeth iechyd yn lleol.

Bydd casgliadau sylwadau o ddau gyfarfod cyhoeddus gafodd eu cynnal ym Machynlleth ddydd Mercher yn cyfrannu at astudiaeth o iechyd yn y canolbarth sy wedi'i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Yr Athro Marcus Longley o Brifysgol De Cymru sy'n cynnal yr astudiaeth ar ran y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, ac mae disgwyl iddo gyflwyno adroddiad ym mis Medi.

Dim ond yn y canolbarth y mae astudiaeth o'r fath yn cael ei chynnal.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Bu llawer yn y cyfarfodydd yn siarad am Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, ond bu'r drafodaeth yn un ehangach gan gynnwys gwasanaethau gofal, darpariaeth meddygon teulu yn yr ardal a gwasanaeth y tu hwnt i oriau arferol.

Fe gafodd y cyfarfod nos Iau ei drefnu gan y grŵp Bro Ddyfi Dros Bronglais - sy'n ymgyrchu i ddiogelu gwasanaethau yn yr ysbyty yn Aberystwyth.

Dywedodd Alan Wyn Jones sy'n aelod o bwyllgor llywio'r grŵp ymgyrchu y bydd yna ystyriaeth yn cael ei roi i holl anghenion iechyd yr ardal. .

"Dros amser mae Mark Drakeford, y gweinidog iechyd, wedi derbyn fod gwir angen ystyried o'r newydd holl anghenion iechyd a gofal bobl mewn ardal wledig fel y canolbarth.

"Mae o wedi comisiynu arolwg cyffredinol o'r holl wasanaethau iechyd - meddygon teulu, gwasanaethau argyfwng, triniaethau cyffredinol unai yn yr ardaloedd dan sylw neu y tu allan i'r ardal hefyd," meddai Mr Jones.

"Mae hyn oherwydd bod nifer o bobl yr ardal yn gorfod teithio i Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Glangwili neu dros y ffin i Amwythig ac yn y blaen.

"Maen nhw'n wynebu problemau fel trafnidiaeth neu o safbwynt cael apwyntiadau yn rhy gynnar fel bod nhw'n gorfod aros dros nos a thalu cannoedd o bunnoedd weithiau am lety ac yn y blaen.

"Felly mae'r holl ddarpariaeth yn y canolbarth dan sylw."

Mae disgwyl i'r Athro Longley gyflwyno ei adroddiad ym mis Medi.