Arglwyddi yn galw am hybu ffracio yng Nghymru a Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Safle ffracio
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r broses o ffracio yn un dadleuol, gyda gwrthwynebwyr yn dweud ei fod yn niweidiol i'r amgylchedd

Mae un o bwyllgorau mwyaf dylanwadol Tŷ'r Arglwyddi wedi dweud bod angen gwneud mwy i hybu ffracio yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl Pwyllgor Materion Economaidd Tŷ'r Arglwyddi, fe allai nwy siâl fod yn ffynhonnell rhad a dibynadwy o danwydd yn y dyfodol.

Dywed adroddiad yr Arglwyddi nad oes digon yn cael ei wneud i helpu'r diwydiant ac fe ddylai fod yn flaenoriaeth genedlaethol - a hynny ar frys.

Mae'r broses o gloddio am nwy siâl yn ddadleuol, ac yn ôl gwrthwynebwyr mae'n wael i'r amgylchedd - ac yn gallu cael effaith niweidiol ar gyflenwadau dŵr a daeareg lleol.

Mae pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi yn dadlau bod nwy siâl yn gyfle i'r economi ac yn datrys problem ynni sylfaenol.

Dywed y pwyllgor hefyd fod angen iddo fod yn fwy o flaenoriaeth - a bod rheolau cynllunio ac amgylcheddol cymhleth yn atal cynnydd.

Miloedd o swyddi

Yn siarad ar Raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru, dywedodd Dylan Jones Evans o Ysgol Fusnes Bryste y gallai nwy siâl greu miloedd o swyddi newydd yng Nghymru.

"Mae ffracio yn America wedi arwain at brisiau nwy is ac wedi creu swyddi. Mae Prydain y tu ôl i bawb arall - rôl y llywodraeth yw rheoleiddio'r diwydiant yn briodol."

Gwrthod hynny gwnaeth Gareth Clubb o Gyfeillion y Ddaear Cymru.

"Fydd prisiau nwy ddim yn dod i lawr ym Mhrydain - mae David Cameron wedi dweud hynny - breuddwyd gwrach ydy hynny," meddai.

"Does dim llawer o gyfeillion i'r amgylchedd ar y pwyllgor yma, ac mae'r adroddiad wedi gwyro yn wleidyddol."