100 o bobl yn gwrthwynebu peilonau
- Cyhoeddwyd

Daeth tua 100 o bobol ynghyd yn Neuadd Pentref Llannefydd nos Fercher i wrthwynebu cynlluniau i osod llwybr o beilonau 17 cilomedr o hyd ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir Conwy.
Bwriad cwmni Scottish Power Manweb yw codi'r peilonau pren 15 metr o uchder er mwyn cludo trydan o felinau gwynt yn ardal Coedwig Clocaenog i is-orsaf bŵer Llanelwy.
Ond mae trigolion lleol yn dadlau y dylid rhoi'r wifren dan y ddaear er mwyn amddiffyn y tirlun ac adeiladau a choedwigoedd hanesyddol.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd y cynghorydd Sue Lloyd Williams: "Da'n ni 'di cael y neuadd yn orlawn a phawb yn barod iawn i rannu eu profiadau a'u sylwadau ynglŷn â'r cynigion gan gwmni SP Manweb.
'Positif iawn'
"Dwi'n meddwl bod heno wedi bod yn bositif iawn. Mae rhaid i ni fel cymunedau Cymreig cefn gwlad edrych ar y gost i ni yn yr hir dymor."
Mae Scottish Power Manweb yn pwysleisio bod cyfnod ymgynghori ar waith ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Rydym yn croesawu pob adborth i'n cynigion ac yn annog trigolion sydd eisiau gwneud sylw i gysylltu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2014
- Cyhoeddwyd27 Mai 2013
- Cyhoeddwyd9 Awst 2011