Ofn dweud y peth anghywir am anabledd
- Cyhoeddwyd
Mae cymaint â dwy ran o dair o'r boblogaeth yn teimlo yn anghyfforddus pan yn siarad â phobl ag anableddau.
Mae casgliadau arolwg gan elusen Scope yn awgrymu fod gan lawer o bobl bryder ynglŷn â dweud y peth anghywir.
Mae'r elusen wedi penderfynu taclo'r broblem dwy roi cyngor i bobl ynglŷn sut i osgoi teimlo'n anghyfforddus.
Rheolau i helpu osgoi embaras
Dyma 5 awgrym gan Scope
- Gwelwch y person, nid yr anabledd
- Peidiwch gymryd yn ganiataol beth yw gallu rhywun, pa fath o fywyd sydd ganddynt, neu sut mae anabledd yn cael effaith arnynt.
- Ddim yn siŵr am rywbeth? Gofynnwch yn gwrtais.
- Derbyniwch beth mae'r person sydd ag anabledd yn ei ddweud am eu hanabledd
- Cofiwch nad yw pob anabledd yn amlwg - does dim modd gweld pethau fel epilepsi drwy edrych ar rywun.
Yn siarad â Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru y bore yma dywedodd Catrin Griffith, sydd a Spina Bifida a Hydrocephalus bod canlyniadau'r arolwg yn "gwneud fi yn drist".
"Dwi'n eitha' licio pobl sydd yn gofyn os dy' nhw ddim cweit yn siŵr sut i ymddwyn o'm mlaen i.
"Mae gen i brofiad o blant bach yn dod ata i a gofyn 'beth sydd yn bod ar dy droed di', a nhw wedi embarasio, ond dwi'n eitha' licio hynny.
"Dwi yn cael pobl hefyd yn sbïo ac yn dweud dim byd, oherwydd yr anabledd.
"A dwi yn cael pobl sydd ddim yn gwybod be i ddweud, ond eisiau dweud rhywbeth, ac efallai ddim cweit yn dweud y peth iawn."
Straeon perthnasol
- 20 Ebrill 2012
- 2 Rhagfyr 2011
- 12 Medi 2011