Cwest Malcolm Green: Achosion naturiol
- Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi dyfarnu mai achosion naturiol ac nid esgeulustod oedd achos marwolaeth dyn o Sir Benfro, er nad oedd wedi derbyn y gofal gorau.
Dechreuodd Malcolm Green, 82, waedu yn dilyn llawdriniaeth i dynnu tiwmor yn Ysbyty Withybush, Hwlffordd yn 2012.
Chafodd llawdriniaeth bellach i drin y gwaedu ddim o'i chwblhau tan y diwrnod wedyn.
Cyhoeddodd crwner cynorthwyol Sir Benfro reithfarn naratif, ond ychwanegodd Michael Howells nad oedd Mr Green wedi derbyn y gofal gorau posibl.
Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Sue Fish, bod y bwrdd wedi derbyn cyfrifoldeb am y farwolaeth, a'u bod yn y broses o drafod setliad.
Dywedodd Mr Howells mai clefyd y galon achosodd ei farwolaeth, yn ogystal ag o ganlyniad i'r llawdriniaeth i dynnu tiwmor.
Ychwanegodd bod staff yr ysbyty wedi cymryd camau i wella prosesau erbyn hyn.
Cafodd Mr Green lawdriniaeth ar Fehefin 26 i dynnu tiwmor o'i goluddyn.
Dros nos, disgynnodd ei bwysau gwaed, a daeth staff o hyd i waedu mewnol y bore wedyn.
Cafodd ei baratoi ar gyfer llawdriniaeth am 10:00yb, ond clywodd y gwrandawiad nad oedd y llawdrinaieth wedi dechrau am dair awr.
Bu farw tri diwrnod yn ddiweddarach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2014