Cynnal gêm brawf cyntaf ers 14 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Hyfforddi CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y timau ar gyfer y gêm brawf yn cael eu cyhoeddi ar Fai 13

Am y tro cyntaf ers 14 blynedd bydd chwaraewyr rygbi Cymru yn cymryd rhan mewn gêm brawf cyn y daith i Dde Affrica.

Ar Fai 30 bydd Tîm Tebygol, wedi eu hyfforddi gan Rob Howley yn chwarae yn erbyn Tîm Posib, fydd dan arweiniad Robin McBryde.

Bydd y gêm yn gyfle olaf i wneud argraff ar y rheolwyr cyn cyhoeddi'r garfan fydd yn teithio i Dde Affrica.

Dywedodd Warren Gatland ei fod yn "wych cael atgyfodi'r gêm brawf enwog".

Paratoadau

Cafodd y gêm brawf diwethaf ei gynnal yn 2000, gêm yr oedd Howley a McBryde yn rhan ohono.

Bydd y gêm brawf diweddaraf yn dod cyn taith Cymru i chwarae'r Springboks mewn dwy gêm ym mis Mehefin.

Roedd methiant y rhanbarthau Cymreig i gyrraedd gemau ail gyfle'r Pro12 yn golygu bod bwlch o bum wythnos rhwng diwedd y tymor a'r gêm gyntaf ar y daith.

Bydd y timau, fydd yn cael eu henwi ar Fai 13, yn paratoi ar wahân ar gyfer y gêm brawf.

Bydd Warren Gatland yna yn enwi ei garfan ar gyfer y daith ar ôl y gêm.

Dywedodd Gatland: "Mae'n gyfle da i'r chwaraewyr ond hefyd yn bwysig i ni yn ein paratoadau byr dymor a hir dymor.

"Bydd y gêm brawf yn gyfle i ni weithio gyda'r garfan ehangach a gweld y chwaraewyr yna yn ein hamgylchedd ni wrth i ni ddechrau paratoi at Gwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

"Mae'n gyfle i chwaraewyr gael profiad o'r tîm a gorffen wythnos o hyfforddi gyda gêm sydd yn bwysig, a gobeithio y gallen nhw wneud argraff ar gyfer y daith dros yr haf."