Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae Leighton Andrews wrth ei fodd - mae'n rhydd! A'r rheswm am ei orfoledd? Mae wedi gorffen ysgrifennu ei lyfr.
Pwysau trwm yw llyfr heb ei orffen meddai wrthym yn ei golofn yn Golwg - mae'n amhosib meddwl gwneud rhywbeth arall.
Mae'r gyfrol yn ymwneud ag addysg, a chyfnod Mr Andrews yn weinidog addysg y llywodraeth - ac mae'n meddwl mai fe yw'r cyntaf i ysgrifennu am ei gyfnod fel gweinidog yn Llywodraeth Cymru - mae'n bwysig, meddai, ein bod yn datblygu diwylliant ble mae'n bosib dysgu gan ein profiad o lywodraethu.
Pythefnos i fynd
Un arall sy'n fodlon ei fyd yw Vaughan Roderick - pennawd ei flogiad diweddaraf yw Os Gofynnwch Pam Rwy'n Hapus. A'r ateb? Pythefnos i fynd.
Mae'r werddon ar y gorwel a gobaith cael dracht o ddŵr etholiadol ar ôl crwydro'r anialdir cyhyd.
Er mai dim ond etholiadau Ewrop sydd o'n blaenau, ar ôl cyfnod mor hesb mae unrhyw bleidlais yn falm i enaid newyddiadurwr gwleidyddol.
Na, 'dyw pawb ddim yn gwirioni'r un fath…
Cynadleddau gwanwyn
Dyna i chi'r arbenigwr gwleidyddol arall hwnnw, Richard Wyn Jones, sydd wedi treulio'r gwanwyn ymhlith y garfan frith honno o lobïwyr a newyddiadurwyr sy'n mynychu cynadleddau gwanwyn ein pleidiau gwleidyddol.
Am ychydig dros fis bu'n annerch cynulleidfaoedd a ddenwyd i gyfarfodydd ymylol gan abwyd brechdanau tiwna a chreision halen a finegr.
O fynychu'r cynadleddau yma, meddai yn ei golofn yn Barn, cewch y pleser o letya mewn cyfres o westai di-raen a'u stafelloedd molchi brwnt, a threulio eich awr ginio'n cnoi brechdanau digrystyn i gyfeiliant swyddogion Sustrans Cymru yn efengylu dros ragoriaethau beicio; swyddogion Ffederasiwn y Busnesau Bach yn canmol - sioc a syndod! - cyfraniad amheuthun busnesau bychain; neu bobl odiach fyth, fel Richard Wyn Jones ei hun, yn dadlau achos Cynulliad Cenedlaethol cant aelod.
Dyna ni, ewch ati i fwcio nawr ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Safon yr iaith
Os oes yna un peth mae Cymry Cymraeg yn mwynhau ei drafod, safon yr iaith mae pobl yn ei defnyddio yw hwnnw.
Yn ei gyfraniad cyntaf i flog yr Academi mae Dylan Foster Evans wedi bod yn edrych ar ysgrif a gyhoeddwyd yn rhifyn cyntaf Taliesin yn y chwedegau oedd yn trafod yr agendor mawr rhwng yr iaith lafar, iaith fyw, a'r iaith lenyddol.
Neidiwn ymlaen hanner canrif, meddai, i fyd o wefannau, trydar, blogio … a llenydda hefyd.
Mae cyd-destun yr iaith yn gwbl wahanol, ond eto teimlaf ei bod yn dal i fod yn anodd cael trafodaeth ar natur yr iaith heb i hynny ddirywio i fawr mwy nag ymboeni am 'gywirdeb' a 'gwallau'.
Dros y blynyddoedd ysgrifennwyd sawl cerdd mewn tafodiaith y gellid honni ei bod yn sathredig ac sy'n deillio yn ôl pob tebyg o'r ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond cerddi'n trafod yr iaith sy'n cael ei defnyddio ydyn nhw ar y cyfan, gan awduron sydd wedi ennill eu plwyf drwy ddangos meistrolaeth ar yr iaith lenyddol draddodiadol, yn hytrach na bod yr iaith yn gyfrwng mynegiant ynddi ei hun.
Ond yn ôl at Leighton Andrews i orffen.
Ar ôl cwblhau ysgrifennu ei lyfr, rhaid iddo fynd ati nawr i baratoi geirfa, cronoleg, llyfryddiaeth a mynegai.
Gwaith digon llafurus, ond mae Mr Andrews wedi clywed stori ddoniol am awdur a ysgrifennodd neges ar gyfer rhywun ar bwys ei enw yn y mynegai.
Y neges? "Roeddwn i'n gwybod y baset ti'n edrych yma yn gyntaf."
Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.