Asbirin am arbed clyw cleifion canser?
- Cyhoeddwyd

Mae gwyddonwyr yng Nghaerdydd yn cynnal profion er mwyn gweld os allith asbirin atal cleifion sydd yn derbyn triniaeth cemotherapi rhag colli eu clyw.
Mae colli clyw neu tinnitus yn rhai o'r sgil effeithiau sydd yn gallu digwydd i bobl sydd yn cymryd cisplatin, cyffur sydd yn cael ei rhoi i rai pobl gyda chanser.
Bydd y treialon yn digwydd yn ysbyty Felindre ac mae 88 o bobol yn cymryd rhan.
Mae cisplatin yn trin mathau gwahanol o ganser megis y pen a'r gwddw, y bledren a rhai mathau o ganser plant.
Cafodd Andrew Millington, 66 oed, cisplatin ar ol darganfod bod ganddo diwmor ar ei dafod.
"Mi oedd gen i wddw tost yn gyson a phigyn clust ac mi es i weld y meddyg gwanwyn y llynedd. Mi es i weld ymgynghorydd ac mi ges i scan MRI. Mi oedd o yn sioc cael gwybod bod gen i ganser ond...mae yn bosib ei drin.
"Mi oedd hynny yn rhyddhad mawr. Mi ges i gynnig cisplatin ac ar ol cael gwybod am rhai o'r sgil effeithiau roeddwn i yn fwy na hapus i gymryd rhan yn y treialon Coast. "
Arbrawf mwy yn bosib
Cyn lansio'r peilot ddydd Iau dywedodd yr athro Emma King, llawfeddyg Cancer Research UK ym Mhrifysgol Southampton:
"Mi allith asbirin achosi sgil effeithiau difrifol, gan gynnwys gwaedu mewnol. Felly mae'n bwysig pwysleisio nad ydy asbirin yn addas ar gyfer holl gleifion canser.
Er mwyn ceisio osgoi'r problemau yma mi fyddwn i yn rhoi tabledi asbirin haenedig. Dyw'r cyffur gyda rhain ddim yn cael ei rhyddhau nes ei fod wedi cyrraedd y coluddyn bach. Hefyd mi fyddwn i yn rhoi cyffur arall...er mwyn arbed gwaedu yn y stumog.
"Os yw'r arbrawf yn gweithio yna mi fydd arbrawf mwy o faint yn dilyn o fewn dwy flynedd gyda'r potensial fod asbirin yn dod yn rhan o driniaeth cisplatin ar gyfer miloedd o gleifion canser."