£140,000: cost plismona gemau cartref Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y clwb bod trefniadau heddlua'r clwb ar gyfer gemau wedi gweithio yn dda

Mae darparu heddlu ar gyfer gemau cartref tîm pel droed Caerdydd wedi costio £140,000 i'r clwb ers 2013.

Dros £131,000 oedd y ffigwr yn 2011/12 a dros £64,000 oedd y ffigwr yn 2012/13.

£140,528 yw'r ffigwr ar gyfer y tymor bresennol ers 2013 tan nawr.

Clwb pel droed Caerdydd sydd yn talu am y swyddogion heddlu ac mi gafodd y wybodaeth ei ddarparu trwy gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

£23,404

Mi gafodd dros tri chwarter o'r arian ers 2013 ei ddefnyddio ar gyfer pump gêm, gyda £23,404 yn cael ei wario ar gyfer y gêm yn erbyn Abertawe ym mis Tachwedd 2013.

Mae cystadleuaeth mawr rhwng y clybiau, ac mae trafferthion wedi bod rhwng cefnogwyr ar sawl achos yn y gorffennol.

Cafodd yr un swm ei wario ar gyfer y gêm yn erbyn Manchester United hefyd, tra bod bron i £20,000 wedi ei wario ar gemau Everton, Tottenham Hotspur a Manchester City.

Y llynedd cafodd clwb Caerdydd ddyrchafiad i'r uwchgynghrair, rhywbeth y mae'r clwb yn credu all fod yn gyfrifol am y costau ychwanegol.

Dywedodd rheolwr stadiwm Dinas Caerdydd, Wayne Nash: "Roedden ni'n disgwyl y cynnydd mewn costau oherwydd trafferth cefnogwyr a'r ffaith bod gyda ni ddyletswydd i sicrhau bod y gemau heb drwbwl.

"Yn ymarferol, rydyn ni'n meddwl bod hyn wedi bod yn llwyddiant a bod cefnogwyr wedi ymddwyn yn dda iawn gartref ac oddi cartref. Mae saernïaeth y stadiwm wedi gweithio yn dda iawn."