Cymraeg yn San Steffan: Galw am newid

  • Cyhoeddwyd
San Steffan

Mae Aelodau Seneddol wedi galw am fwy o ryddid i gynnal trafodaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn San Steffan.

Yn ystod sesiwn gwestiynau i Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, daeth galwadau am newidiadau sylfaenol i'r rheolau ynglŷn â'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Dywedodd aelod Llafur, Paul Flynn y dylid sicrhau fod "trefniadau ymarferol rhesymol yn cael eu gwneud er mwyn caniatáu i unrhyw un wneud araith Cymraeg yn y siambr hon a llefydd eraill pan fo materion Cymreig yn cael eu trafod".

Ychwanegodd Mr Flynn bod "y Gymraeg yn cael ei thrin yn eilradd i Saesneg, yn anochel".

"Gellir gwneud trefniadau synhwyrol. Mae sawl senedd arall yn delio â hanner dwsin o ieithoedd."

Y llywodraeth yn 'gefnogol'

Cafodd yr alwad ei gefnogi gan aelod Plaid Cymru, Jonathan Edwards.

Yn ôl Mr Edwards: "Roedd tua hanner o'r rhai fu'n siarad mewn cyfarfod o'r Uwch Bwyllgor Cymreig ddoe yn siaradwyr Cymraeg rhugl, iaith gyntaf.

"Os bosib dylai cyfarfodydd y pwyllgorau Cymreig fod yn ddwyieithog, gan wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yn y Senedd hon..."

Fe ddaeth y sylwadau ar ôl i'r Ceidwadwr Glyn Davies ofyn pa gamau oedd yn cael eu cymryd gan y llywodraeth i hybu'r Gymraeg yn Nhŷ'r Cyffredin.

Wrth ymateb dywedodd Dirprwy Arweinydd y Tŷ, Tom Brake, bod y llywodraeth yn gefnogol i'r Gymraeg.

Dywedodd y gallai Aelodau Seneddol ddefnyddio Cymraeg mewn detholiadau byr, ond fe ddylid "darparu cyfieithiad ar gyfer pobl di-Gymraeg".

"Cytunwyd yn 2001 y gallai tystion sydd yn ymddangos ger bron pwyllgorau dethol wneud hynny yn Gymraeg."