Y blaid Werdd yn gaddo taclo newid hinsawdd

  • Cyhoeddwyd
Pippa BartolottiFfynhonnell y llun, Pippa Bartolotti
Disgrifiad o’r llun,
Mae Pippa Bartolotti yn credu bydd yr etholiad yn frwydr "gwerthoedd yn ogystal â pholisiau"

Mae'r blaid Werdd wedi lansio'i hymgyrch ar gyfer etholiadau Ewrop yng Nghymru, gan alw am ddiwygio'r Undeb Ewropeaidd ac addo mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru Pippa Bartolotti y byddai polisïau'r blaid hefyd yn arwain at filiau ynni is.

Roedd yr ymgyrch yn frwydr rhwng "y dyfodol a'r gorffennol" a "gobaith yn erbyn braw a phryder".

Dod yn chweched oedd hanes y Gwyrddion yng Nghymru yn etholiad Ewrop 2009, tu ôl i'r Democratiaid Rhyddfrydol, gan gipio 5.6% o'r bleidlais.

Wrth lawnsio'r ymgyrch mewn canolfan gelfyddydau yng Nghaerdydd, dywedodd Ms Bartolotti ei bod hi'n rhagweld "brwydr gwerthoedd yn ogystal â pholisiau".

"Ry' ni'n siarad fan ynglyn â'r dyfodol yn erbyn y gorffenol, gobaith yn erbyn braw a phryder, gwareiddiad yn erbyn rhagfarn, gwyddoniaeth a gofal yn erbyn anwybodaeth a byrbwylldra," meddaid.

"Y blaid Werdd yw'r cartef amlwg i bleidleiswyr sy wedi syrffedu ar y pleidiau mawr".

Roedd y Gwyrddion wedi dwyn pwysau ar Blaid Cymru i fod yn fwy 'gwyrdd', meddai, gan fynnu nad oedd hi'n dymuno gweld Plaid Cymru'n colli sedd yn Senedd Ewrop.

Mae rhestr o'r holl ymgeiswyr a'r pleidiau sydd yn sefyll yn yr etholiadau Ewropeaidd ar ddydd Iau Mai 22 ar gael yma.