Sioe Llanelwedd yn codi tâl parcio ar gyfer un cae
- Cyhoeddwyd
Mi fydd rhaid i rai pobl dalu am barcio yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd am y tro cyntaf eleni.
Mae trefnwyr y sioe wedi penderfynu codi tal o £20 y diwrnod ar gyfer y maes parcio drws nesaf i'r prif faes, sydd â lle i 500 o geir.
Bydd rhaid i bobl anabl dalu £5, ond mae un elusen wedi dweud y gallai'r costau olygu na fydd pobl anabl yn mynd i'r sioe, sy'n digwydd rhwng 21 a 24 o Orffennaf.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ceisio adennill ychydig o'r £419,000 o gostau o ddarparu parcio am ddim yn y digwyddiad 4 diwrnod.
11,500 y dydd
Mi fydd y chwe maes parcio arall a system bws gwennol dal yn cael eu cynnig am ddim ar gyfer y ceir eraill.
Tua 11,500 o geir sydd fel arfer yn dod i'r sioe bob dydd. Bob blwyddyn mae tua 240,000 yn dod i Lanelwedd.
Dywedodd prif weithredwr y gymdeithas, Steve Hughson mai'r sioe yw un o'r sioeau amaethyddol mawr olaf ym Mhrydain i ddarparu parcio am ddim.
Ychwanegodd bod y maes parcio lle y bydd pobl yn talu yn agos iawn i'r maes.
"Y tâl dyddiol yw £20. Ond wrth gydnabod yr angen i gefnogi y gymuned anabl rydyn ni wedi cynnig gostyngiad o 75% a chodi tâl o £5 y diwrnod," meddai.
"Yn ychwanegol rydyn ni yn cynnig bws mini o'r maes parcio i'r maes ar gyfer ymwelwyr gydag anabledd."
Meddwl dwywaith cyn ymweld?
Mae Mr Hughson yn dweud bod 800 o bobl wedi penderfynu talu £5 am y maes parcio ar gyfer pobl anabl ac mai dim ond "nifer fechan o gwynion" y maen nhw wedi eu derbyn.
Dywedodd hefyd y byddan nhw'n adolygu'r cyfleuster yn gyson a'i bod nhw'n ystyried cynnig parcio am ddim i bobl gydag anghenion arbennig sydd yn derbyn budd-daliadau anabledd.
Dywedodd Deborah Gerrard, prif weithredwraig Disability Powys sydd yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl anabl: "Mae unigolion anabl yn wynebu rhwystrau mewn cymdeithas felly mi allai gorfodi'r tâl yma eu heithrio nhw'n fwy.
"Mi allai codi tal o £5 olygu y bydd pobl anabl yn meddwl dwywaith cyn ymweld a'r sioe eleni."
Straeon perthnasol
- 16 Rhagfyr 2013
- 26 Gorffennaf 2013