Cwest Harvey Williams: Marwolaeth ddamweiniol
- Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi dyfarnu mai marwolaeth ddamweiniol oedd un plentyn dwy oed wnaeth foddi mewn pwll gardd yn Llangollen y llynedd.
Mi glywodd y crwner fod Harvey Lee Williams yn awtistig a bod ganddo obsesiwn gyda dŵr. Ar Ragfyr 9 mi oedd teulu Harvey yn y broses o symud o'u cartref ym mhentref Froncysylltau i dŷ arall. Roedden nhw'n meddwl y byddai'r cartref newydd yn fwy diogel i'r bachgen bach.
Ond tra roedd ei fam, Amy Dipper a'i chymar, Daniel Leach wrthi'n symud mi aeth Harvey ar grwydr ac i ardd un o'r cymdogion.
Mewn datganiad mi ddisgrifiodd Daniel Leach y sefyllfa wrth iddyn nhw sylweddoli nad oedd Harvey gyda'i frawd pedair oed. Mi ddechreuon nhw chwilio ar frys amdano.
Mi welodd Mr Leach Harvey y bachgen yn gorwedd gyda'i wyneb am i lawr yn y pwll ac mi geisiodd ei adfywio. Mi oedd hi'n ymddangos fod y plentyn wedi taro ei ben. Cafodd Harvey ei ruthro i Ysbyty Maelor Wrecsam ond mi fuodd o farw.
Wrth ddyfarnu marwolaeth ddamweiniol dywedodd y crwner, John Gittins: "Damwain oedd hyn, mae hynny'n amlwg."
"'Dw i'n siŵr byddwch chi'ch dau yn teimlo - ac yn cario - baich trwm gyda chi am beth amser. Rwy'n gobeithio y bydd treigl amser yn caniatáu i'r baich yna gael ei godi."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddan nhw yn medru gydag amser cofio'r atgofion melys.
Crio wnaeth mam Harvey yn ystod y cwest, wnaeth bara 20 munud.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2013