Wythnos y We: 6-9 Mai
- Cyhoeddwyd

Bob dydd Gwener bydd BBC Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o'r straeon a digwyddiadau gafodd sylw ar y llif byw yn ystod yr wythnos.
Cofiwch ychwanegu bbc.co.uk/cymrufyw at eich ffefrynnau (bookmarks) ar eich cyfrifiadur, dabled neu ffôn symudol.
Roedd hi'n Wŷl y Banc ddydd Llun, felly mae hi wedi bod yn wythnos fyrrach na'r arfer!
Dydd Mawrth, Mai 6
Ymateb cymysg oedd yna i 'Raw Material - Llareggub Revisited', drama gafodd ei pherfformio yn ystod Gŵyl Twrw Talacharn y BBC, rhan o ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. Roedd y perfformiad yn seiliedig ar ddrama boblogaidd y bardd Under Milk Wood.
Siom gafodd Paul Griffiths. Ar ei flog dywedodd:
"Doedd dim gwerth celfyddydol nac, yn sicr, theatrig i'r digwyddiad costus, siomedig hwn."
Bu Karen Price o'r Western Mail yno hefyd a mae hi'n canmol y cynhyrchiad ar wefan WalesOnline.
Fuo chi yno? Dydi hi ddim yn rhy hwyr i chi i ddweud wrth cymrufyw@bbc.co.uk be oedd eich argraffiadau chi.
Dydd Mercher, Mai 7
Datgelodd S4C y byddai disgyblion a phobl leol Y Bala yn serennu mewn fideo i ddathlu bod Eisteddfod yr Urdd yn dod i'w hardal. Mi oedd disgyblion yn teithio ar y trên o Lanuwchllyn, yn hwylio ar Lyn Tegid ac yn dod â thraffig i stop gyda gorymdaith bananas ar Heol Tegid lle roedd 300 o blant lleol.
Mae rhai o wynebau a chymeriadau S4C yn y fideo, gyda Mistar Urdd a'r seren leol, Tegi, anghenfil Llyn Tegid.
Dydd Iau, Mai 8
Mae Geraint Jarman, Candelas, Gai Toms a Gwenno ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio ar lwyfan Cymraeg Gŵyl Rhif 6 eleni. Fe fyddan nhw'n ymuno â Beck, London Grammar a llawer mwy ar gyfer yr ŵyl sy'n cael ei chynnal rhwng 5-7 Medi ym Mhortmeirion ger Porthmadog.
Dydd Gwener, Mai 9
Mae Gruff Rhys yn cyhoeddi ei record hir newydd American Interior yr wythnos hon ac mae hi wedi creu argraff ar adolygydd The Guardian. Mae'r record yn olrhain hanes John Evans , gwas fferm o Eryri deithiodd i America yn y ddeunawfed ganrif i geisio dod o hyd i lwyth o'r enw Madogwys.
Mae 'na ffilm a llyfr wedi eu cyhoeddi gyda'r record yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mi gewch chi hanes John Evans a phrosiect American Interior ar wefan Gruff ac mae mwy o fanylion yn ein Cylchgrawn.