Blas o India yn cael ei arddangos yn Oriel Môn
- Cyhoeddwyd

Mae casgliad o waith celf ddiweddaraf yr artist a'r cerflunydd gwydr, Bill Swann, yn dod a blas o India i Oriel Môn, Llangefni.
Wedi'i ysbrydoli gan ei deithiau o amgylch taleithiau Bengal a Uttah Pradesh yng Ngogledd India yn 2012, mae'r arddangosfa yn cynnwys amrywiaeth o hongiadau wal a cherfluniau sy'n adlewyrchu diwylliant cyfoethog y wlad.
Mae'r casgliad yn cynnig cipolwg o'r profiadau cafodd Bill, o Borthmadog, ar ei deithiau, a'i nod oedd portreadu'r wlad a'i meddylfryd.
Esboniodd Mr Swann : "O'r ricsios yn Kolkata, y teuluoedd sy'n ffermio yn nhref ganoloesol Orchha a pherchnogion y gwesty treftadaeth yn Jaipur, Mae'r bobl a'u ffordd o fyw bob amser yn gwneud i chi eisiau profi mwy a gwybod mwy."
"Wrth deithio ar y trên, deuthum ar draws ystod eang o bobl a phrofiadau; o ddawnsiwr trawswisgol i swyddog llywodraeth a oedd yn awyddus i drafod datblygiadau newydd yn y maes gofal cymdeithasol. Ar hyd y rheilffordd, gwelais geifr yn gwisgo cardiganau a mwncïod yn chwilota am fwyd rhwng y traciau."
Bydd yr arddangosfa yn gorffen ar 15 Mehefin cyn mynd ymlaen i Clwyd Theatr Cymru yn Yr Wyddgrug; Amgueddfa Celfyddyd Fodern Cymru ym Machynlleth; Oriel Albany yng Nghaerdydd; Y Galeri yng Nghaerffili ac Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog.