Ysgol Gyfun Bryn Tawe: prifathro wedi ei wahardd
- Cyhoeddwyd

Mae prifathro Ysgol Bryn Tawe wedi cael ei wahardd o'i waith wrth i ymchwiliad i ddigwyddiad yn yr ysgol barhau.
Roedd Graham Daniels eisoes wedi camu o'r neilltu dros dro.
Daeth cadarnhad hefyd bod aelod arall o staff wedi cael ei wahardd o'i waith.
Daw hyn ar ôl i fideo gael ei gyhoeddi ar y we sydd i'w weld yn cynnwys be sy'n swnio fel synau rhywiol. Honnir i'r fideo gael ei recordio y tu allan i swyddfa yn yr ysgol.
Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr Heini Gruffudd: "Mae'r ysgol wedi derbyn cwyn sydd ddim yn enwi neb. Yn sgil hyn mae'r llywodraethwyr yn ymchwilio ac yn cydweithio gyda'r awdurdod lleol.
"Mae'r prifathro ac aelod o'r staff wedi eu gwahardd ar hyn o bryd a bydd Mr Simon Thomas, dirprwy bennaeth ar ysgol, yn gofalu am yr ysgol am y tro.
"Mae'r ysgol yn dilyn ei threfn arferol a ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Dywedodd Cyngor Abertawe ddydd Mawrth fod ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i ddisgyblion gyhoeddi ffilm ar gyfryngau cymdeithasol.
Straeon perthnasol
- 6 Mai 2014