Merched Cymru 4 - 0 Merched Montenegro

  • Cyhoeddwyd
Fishlock
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Jess Fishlock ar dân i Gymru

Mae Merched Cymru wedi rhoi crasfa i Montenegro yn Nantporth ym Mangor, gyda chapten y tîm Jess Fishlock yn hawlio hatrig.

Mae'r canlyniad yn rhoi hwb sylweddol i obeithion Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Gan fod yr Iwcrain yn colli'n drwm erbyn Lloegr, mae Cymru'n parhau i fod yn ail yn grŵp 6, tu ôl i'r Saeson, gyda 13 o bwyntiau allan o chwe gêm.

Yr Iwcrain sy'n drydydd gyda saith pwynt, ond maen nhw wedi chwarae dwy gêm yn llai na Chymru. Os byddan nhw'n ennill y ddwy, byddai'r ddau dîm yn gyfartal o ran pwyntiau.

Dechrau addawol

Dechreuodd Cymru'n dda ac roedden nhw'n llwyddo i gadw'r bêl yn eu meddiant am gyfnodau hir.

Fe ddangosodd Natasha Harding pam y dylai'r Montenegriaid fod yn wyliadwrus wedi naw munud, ond llwyddodd yr ymwelwyr i daro'r bêl i ffwrdd am gornel.

Daeth y gôl gyntaf ddau funud yn ddiweddarach diolch i Sarah Wiltshire, wnaeth orffen yn daclus wrth y postyn pellaf.

Capten y tîm gipiodd yr ail wrth i Jess Fishlock ddangos pam ei bod hi'n cael ei hystyried i fod yn chwaraewr mor safonol.

Fe danlinellodd hyn ddeg munud wedyn wrth gael ei hail - ergyd bwerus o du allan y blwch cosbi'n ei gwneud hi'n 3-0 o fewn 22 munud.

Y Cymry chwaraeodd orau am weddill yr hanner hefyd, ac aethon nhw fewn ar yr egwyl dair gôl ar y blaen.

Twrci yw'r her nesaf

Daeth gwaith da rhwng Fishlock and Harding a chyfle i'w gwneud hi'n bedair yn gynnar yn yr ail hanner, ond fe lwyddodd Montenegro i oroesi y tro hwn.

Ond yn fuan wedyn fe ddaeth y bedwaredd - Fishlock yn rhwydo unwaith eto i hawlio ei hatrig.

Daeth cyfle gorau'r ymwelwyr rhyw ddeg munud o'r diwedd ond roedd tacl munud-olaf wych Kylie Davies yn ddigon i'w gwadu.

Mi fydd gêm nesaf Fishlock a'i chriw yn erbyn Twrci ar Fehefin 19 yn yr Hwlffordd.