Rhagolwg tywydd: Urdd yn gohirio gŵyl chwaraeon
- Cyhoeddwyd

Mae'r Urdd wedi penderfynu gohirio eu Gŵyl Chwaraeon Cynradd oedd i fod yn Aberystwyth dros y penwythnos.
Y rheswm yw'r rhagolwg y byddai'r tywydd yn wael.
Dywedodd llefarydd: "Yn anffodus, mae'r Urdd wedi gorfod gwneud y penderfyniad i ohirio Gŵyl Chwaraeon yr Urdd ...
"Rydym wedi ymgynghori gyda'r awdurdodau ac o ganlyniad i ragolygon tywydd gwael iawn ni fydd hi'n bosib i ni osod strwythurau a chynnal yr ŵyl yn ddiogel.
"Ein bwriad ni yw aildrefnu ar gyfer penwythnos Mehefin 14 a 15."
Am fwy o fanylion mae modd ffonio 02920 635688 neu e-bostio chwaraeon@urdd.org
Eleni y thema yw Gemau'r Gymanwlad ac fe fydd pob rhanbarth yng Nghymru yn derbyn yr her i gynrychioli gwlad.
Mae'r Urdd wedi awgrymu y dylai cystadleuwyr greu baneri neu arwyddion a bydd gwobr o £100 at nwyddau chwaraeon i'r ysgol â'r faner orau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2014
- Cyhoeddwyd1 Mai 2014
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2014