Busnesau angen manteisio ar leoliad, meddai Syr Howard
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-bennaeth cwmni nwyddau trydanol Sony wedi dweud y gall cwmnïau o Gymru ennill cytundebau gweithgynhyrchu yn ôl o Asia.
Dywedodd Syr Howard Stringer y gall cwmniau gael cynnyrch ar y farchnad yn gynt na'r amser i ddanfon y nwyddau ar long o Asia.
Dywedodd hefyd bod angen i gwmnïau mawr ymladd "am eu bywydau" a dangos awch i gipio fwy o gytundebau.
Pwysleisiodd mai'r ysbryd fentrus sydd gan ei hen gwmni, Sony, ym Mhencoed, oedd yn gyfrifol am ennill cytundeb adeiladu cyfrifiaduron Raspberry Pi dros ffatrïoedd yn Tseina.
Manteisio
Meddai: "Un o'r ffyrdd i ddangos gwerth gweithgynhyrchu yma yw bod Cymru yn agosach i'r farchnad.
"Mae Tsieina yn bell i ffwrdd ac mae byd busnes yn symud mor gyflym.
"Gall y farchnad newid yn y chwech i ddeg wythnos mae'n ei gymryd i hwylio o Tsieina a chyrraedd y DU.
"Os byddwch yn cynhyrchu nwyddau yma ar gost resymol, mae gennych fantais aruthrol dros y gystadleuaeth.
"Ym Mhencoed (ffatri Sony) maent yn deall hynny ac yn gwneud yr hyn mae cwmnïau bach yn ei wneud, sef ymladd am eu bywydau.
"Maent wedi gweld y dibyn, wedi edrych i lawr a... dweud 'un ffordd sydd i ennill yn y busnes yma a hynny ydi gwneud pethau'n wahanol'."
Dywedodd Mr Stringer ei fod yn falch iawn o beth oedd ei hen gwmni yn ei gyflawni.
Mae gan y safle ym Mhencoed enw da am y camerâu darlledu a fideo a wneir yno, ac yn ddiweddar mae'r ffatri wedi dechrau cynhyrchu'r Raspberry Pi yno.
'Awyddus i ddod yma'
Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig bod cwmnïau diwydiannol yn awyddus i sefydlu yng Nghymru, ond yn bod diffyg safleoedd addas.
Ym mis Ebrill, roedd Llywodraeth Cymru wedi prynu Parc Technoleg Pencoed am £12.3m, i ychwanegu at y 60 erw o dir datblygu sydd rwng y parc a'r M4.
Mae'r llywodraeth yn dweud ei fod yn awyddus annog mwy o gwmnïau o ansawdd uchel sefydlu yn yr ardal.
Yng ngogledd Cymru, mae'r llywodraeth wedi prynu hen safle Hotpoint ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Roedd Mr Stringer yn siarad gyda gohebydd busnes Radio Wales, Brian Meechan, fel rhan o gyfres Wales .
Straeon perthnasol
- 16 Ebrill 2014
- 14 Ebrill 2014