Wigley yn cyhuddo'r pleidiau o adael i UKIP 'lywio'r agenda'
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru wedi cyhuddo pleidiau mawr Prydain o adael i UKIP "lywio'r agenda wleidyddol".
Ym Merthyr Tudful nos Wener dywedodd yr Arglwydd Wigley y byddai polisi UKIP o o adael yr Undeb Ewropeaidd, yn arwain at "ganlyniadau trychinebus, ansefydlogi Cymru ac economi'r genedl".
"Y peth pwysicaf i fusnes a diwydiant yw eu marchnad: heb farchnad i'w cynnyrch, bydd popeth yn methu. Ac un o briodweddau pwysicaf marchnad yw ei sefydlogrwydd. Maen nhw'n dweud wrthym fod economi Cymru wedi dechrau dod ati ei hun o'r dirwasgiad trychinebus a arweiniwyd gan y bancwyr yn ystod tymor y llywodraeth Lafur diwethaf. Ond mae'r adferiad yn fregus iawn. Ac un o'r bygythiadau mwyaf i hyn yw'r bygythiad o dynnu allan o'r farchnad Ewropeaidd. Byddai'n ffôl eithriadol peryglu hyn."
Dywedodd y byddai gadael yr undeb yn dinistrio ymdrechion i daclo newid hinsawdd - ac yn annog etholwyr "i ystyried yn ddwys" cyn cefnogi'r fath bolisi.
"I UKIP, pwynt cynnal refferendwm yw tynnu gwledydd Prydain allan o'r UE. Felly rwy'n deall pam y byddai'r rhai sydd eisiau troi eu cefnau ar Ewrop am gael refferendwm," meddai.
'Llwybr trychinebus'
"Does arna'i ddim eisiau i Gymru na Phrydain dynnu allan o'r UE. Yn ôl a ddeallaf, dyw Mr Cameron chwaith ddim eisiau i'r DG adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw Mr Miliband chwaith na Mr Clegg."
Gofynnodd pam bod "llwybr mor drychinebus" hyd yn oed yn cael ei ystyried.
"Pam fod agenda wleidyddol y DG yn dawnsio i diwn plaid nad yw erioed wedi ethol un AS i San Steffan?
"Petai UKIP yn ennill mwyafrif seddi yn San Steffan, wrth gwrs fe fyddai ganddyn nhw'r hawl i alw refferendwm ar aelodaeth y DG o'r UE.
"Ond hyd yma, mae hynny yn rhywbeth y maen nhw wedi methu'n druenus â gwneud er bod Nigel Farage wedi defnyddio arian Ewropeaidd i gynnal ei blaid."
Plaid un-pwnc
Dywedodd fod UKIP yn blaid un-pwnc a'u hateb i bob cwestiwn yw "pwyso'r botwm dinistrio ar undod a chydweithrediad Ewropeaidd".
"Onid yw pleidleiswyr Cymru yn llwyr argyhoeddedig ... eu bod eisiau dinistrio'r strwythurau sydd wedi sicrhau heddwch rhwng partneriaid yr UE am y rhan fwyaf o'n bywydau, dylen nhw oedi o ddifrif cyn sianelu eu rhwystredigaeth am agweddau ar bolisi Ewropeaidd i lwybr gweithredu mor nihilistaidd."
Mae arolygon barn yn awgrymu bod Plaid Cymru yn wynebu brwydr galed i gadw eu hunig sedd yn y Senedd Ewropeaidd.
Ymhlith eu haddewidion polisi yn yr etholiadau Ewropeaidd mae creu 50,000 o swyddi newydd, ehangu cyfleoedd hyfforddiant, a gwella cysylltiadau trafnidiaeth ym mhob rhan o Gymru.
Mae rhestr o'r holl ymgeiswyr a'r pleidiau sy'n sefyll yn yr etholiadau Ewropeaidd ar ddydd Iau Mai 22 ar gael yma.