Mackay yn ymddiheuro i Vincent Tan

  • Cyhoeddwyd
Vincent Tan a Malky MackayFfynhonnell y llun, PA

Mae cyn-reolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Malky Mackay, wedi ymddiheuro i berchennog y clwb, Vincent Tan, am yr hyn ddigwyddodd cyn iddo gael ei ddiswyddo.

Dywedodd ei fod yn rhoi'r gorau i'w achos cyfreithiol ynglŷn â diswyddo annheg.

Roedd yr Albanwr wedi hawlio swm sylweddol o arian ar ôl iddo gael ei ddiswyddo ym mis Rhagfyr.

Mewn datganiad ymddiheurodd Mackay os oedd wedi achosi unrhyw dramgwydd, yn enwedig i Mr Tan.

Daeth gwahaniaethau rhwng y rheolwr a Tan i'r amlwg pan gafodd pennaeth recriwtio'r clwb, Iain Moody, ei ddiswyddo am or-wario yn ystod y cyfnod trosglwyddo yn 2013, rhywbeth roedd Mackay yn ei wadu.

23 oed

Dyn 23 oed, Alisher Apsalyamov, oedd eisoes wedi bod ar brofiad gwaith gyda'r clwb, gafodd y swydd yn ei le.

Yna roedd adroddiadau bod Tan wedi ceisio amharu ar dactegau'r tîm cyntaf.

Yn fuan cyn y Nadolig daeth i'r amlwg bod Tan wedi anfon e-bost at Mackay yn galw arno i ymddiswyddo am resymau amrywiol - canlyniadau gemau, steil chwarae a methiant chwaraewyr newydd y clwb.

Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd Mackay: "Heddiw rydw i wedi dod i gytundeb i setlo pob hawl yn erbyn y clwb.

"Doeddwn i ddim yn awyddus i fod mewn achos cyfreithiol ac rydw i'n credu ei bod yn fuddiol i bawb i ni symud ymlaen.

"Fe wnes i fwynhau fy nghyfnod yng Nghaerdydd ac rwy'n ddiolchgar i'r bwrdd ac i Tan Sri Vincent Tan am roi'r cyfle i mi.

"Fe wnaeth perchennog y clwb fuddsoddi yn y clwb a chefnogi ein penderfyniadau i geisio ennill dyrchafiad i'r Uwchgynghrair.

Llwyddiannus

"Hebddo ef, ni fyddai hynny wedi bod yn bosib."

Ychwanegodd: "Os ydw i wedi tramgwyddo yn erbyn unrhyw un yn ystod y cyfnod yma, yn enwedig Tan Sri Vincent Tan, yna rydw i yn ymddiheuro yn llawn."

Malky Mackay oedd un o reolwyr mwyaf llwyddiannus yr Adar Gleision.

Fe arweiniodd y clwb i'r Uwchgynghrair yn 2013.

Ond roedd ei berthynas â pherchennog y clwb yn anodd - ac fe gafodd ei ddiswyddo hanner ffordd drwy'r tymor.

Methiant oedd ymgais olynydd Mackay, Ole Gunnar Solskjaer, i gadw'r clwb yn yr Uwchgynghrair.

Nid oedd unrhyw sylw am faint unrhyw setliad ariannol rhwng Caerdydd a Malky Mackay.

'Symud ymlaen'

Mewn datganiad, dywedodd Iain Moody, gafodd ei ddiswyddo fel pennaeth recriwtio'r clwb ei fod yn falch y gall pawb symud ymlaen.

"Lle bynnag cafod camgymeriadau eu gwneud yn ystod fy amser yn y clwb, hoffwn ymddiheuro am unrhyw ran chwaraeais ynddyn nhw, ac am unrhyw dramgwydd gafodd ei achosi, yn enwedig i Tan Sri Vincent Tan a'r holl gefnogwyr," meddai.

"Roedd y ddwy flynedd a hanner gwariais yn y clwb ymysg y rhai wnes i fwynhau fwyaf a hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i Mr Tan a'r bwrdd am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod yna."

Dywedodd Clwb Caerdydd eu bod nawr yn edrych ymlaen at baratoi at y tymor nesaf.