Tipuric i fethu taith yr haf i Dde Affrica
- Cyhoeddwyd

Bydd blaenasgellwr y Gweilch, Justin Tipuric yn methu taith Cymru i Dde Affrica yn yr haf yn ôl y rhanbarth.
Mae'n golygu y bydd Cymru heb ddau o'u prif chwaraewyr yn safle'r blaenasgellwr, gan na fydd Sam Warburton ar y daith chwaith.
Bydd Tipuric yn cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd yr wythnos nesaf, tra bod capten Cymru, Sam Warburton am fethu'r daith oherwydd anaf i'w ysgwydd yntau.
Bydd Tipuric yn chwarae dros y Gweilch yn erbyn Connacht ddydd Gwener.
Cafodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wybod am drafferthion Tipuric ym mis Ebrill.
Ond mae wedi dweud ei fod yn hyderus bod opsiynau gan Gymru i chwarae heb flaenasgellwr sy'n arbenigo ar yr ochr agored.
"Mae gyda ni opsiynau eraill oherwydd dwi'n meddwl bod De Affrica yn dîm y gallwch chwarae yn eu herbyn - oherwydd maint y chwaraewyr yn eu rheng-ôl - heb arbenigwr ochr agored," meddai.
"Gallwn ni symud Dan [Lydiate] o'r ochr dywyll i'r ochr agored a symud Bradley [Davies] i rif chwech i ddelio gyda [Willem] Alberts.
"Mae'n rhywbeth yr ydyn ni'n edrych arno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2014
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2014