Cau gorsaf bŵer glo yn Aber-wysg

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf bwer Aber-wysgFfynhonnell y llun, Robin Drayton
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd SSE eu bod yn ymchwilio i opsiynau i adleoli gweithwyr

Bydd gorsaf bŵer glo Aber-wysg ger Casnewydd yn cau gan beryglu 83 o swyddi.

Mae'r perchnogion, cwmni SSE wedi bod yn ceisio gwerthu'r orsaf, ond nawr maen nhw'n dweud na allen nhw sicrhau dyfodol yr orsaf.

Dywedodd Paul Smith, Rheolwr Gyfarwyddwr SSE, eu bod yn "hynod siomedig" i gau'r safle.

Dywedodd y cwmni eu bod yn ymchwilio i'r opsiynau posib i geisio adleoli gweithwyr.

Ychwanegodd Mr Smith: "Mae dyfodol Aberwysg wedi bod yn ansicr am y flwyddyn ddiwethaf wrth agosáu at ddiwedd ei bywyd gwaith a'r sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn heriol."

"Roedd SSE wedi gobeithio gwerthu'r safle erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyda'r gobaith y byddai'r cwmni yna yn parhau i weithio ar y safle mewn ffordd gynaliadwy, hirdymor.

"Yn anffodus, nid yw hynny wedi bod yn bosib, oherwydd nad oedd yr unig brynwr posib realistig yn gallu dangos cynllun busnes cadarn i'n sicrhau ni y byddai'r safle a'r gweithwyr yn cael eu cefnogi."

'Ergyd i staff'

Dywedodd John Toner o undeb Unite, sy'n cynrychioli nifer o weithwyr gorsaf Aber-wysg B, bod cau'r safle yn ergyd i'r staff ac i'r economi leol.

Bydd Mr Toner yn cwrdd â'r cwmni i drafod ddydd Gwener.

Dywedodd y bydd yr undeb yn ceisio dod o hyd i swyddi newydd o fewn SSE i gymaint o bobl a phosib, ac i drafod cytundeb i'r rhai fydd yn colli eu swyddi.

"Mae'r rhain yn weithwyr gyda sgiliau, felly mae rhywbeth i ni weithio gyda fo yma," meddai.

Aberwysg yw'r orsaf bŵer glo hynaf yn y DU ac mae'n debyg y byddai wedi gorfod cau yn 2023.

Cafodd gorsaf bŵer nwy newydd ei hadeiladu ar gost o £600m yn Aber-wysg yn 2011, cyn cael ei werthu i gonsortiwm.