Disgwyl oedi wrth gryfhau hen bont ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd

Mae gwaith yn cychwyn er mwyn cryfhau hen bont gafodd ei hadeiladu bron 150 o flynyddoedd yn ol.
Mae Pont Fictoria yn croesi afon Taf ym Mhontypridd a dyma un o'r prif lwybrau er mwyn cyrraedd cymoedd y Rhondda a'r A470. £1 miliwn yw cost y gwaith o gryfhau strwythur y bont a'r cyngor sydd yn talu am y gwaith. Mi fydd darnau dur yn cael eu hadeiladu a dec phont newydd.
Bydd y gwaith yn golygu mai system un ffordd fydd ar draws y bont am gyfnod o 27 wythnos. Mae'r cyngor yn dweud y bydd y bont ar gau dros nos ac ar benwythnosau pan y bydd angen. Ond maent yn dweud y byddan nhw'n rhoi digon o rybudd i bobl pan y bydd hyn yn digwydd a bod ail wneud y bont yn hanfodol.
Effaith ar fysiau
Bydd y system un ffordd yn cychwyn o gyffordd Stryd y Bont a Stryd Sion ar gyfer traffic sydd yn teithio i'r gorllewin. Mae'r cyngor yn dweud y bydd traffic o'r A470 yn medru teithio ar hyd y bont i ganol Pontypridd fel arfer.
Ond mi fydd cerbydau sydd yn teithio i'r dwyrain yn cael eu dargyfeirio. Mi fydd traffic sydd yn teithio ar draws Ffordd Gelliwastad a Stryd Morgan hefyd yn cael ei ddargyfeirio i Stryd Taf a Stryd Crossbrook.
Mae'r cyngor hefyd yn rhybuddio pobl i ail edrych ar amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus ac yn dweud y byddai rhai bysiau yn cael eu heffeithio sef gwasanaeth 103 o Bontypridd i Oaklands, 104 o Bontypridd i Hawthorn a X38 o Bontypridd i Fargoed.
Mi fydd pobl yn dal yn medru cerdded ar hyd y llwybr fel arfer.