BBC Cymru Fyw

Tân mewn fflat: dyn mewn cyflwr difrifol iawn

Published
image captionMae'r tân wedi digwydd mewn fflat
Mae dyn mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty ar ol i dân gychwyn mewn fflat yn Ynysybŵl wrth ymyl Pontypridd. Mae'r dyn yn cael triniaeth yn Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr Tudful.
Mae'r fflat uwchben siop yn New Road, Ynysybwl. Mae'r wraig a anafwyd yn cael triniaeth hefyd ond nid oes ganddi anafiadau difrifol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r adeilad tua 20:30 nos Wener.