Ysgol Gymraeg newydd Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Powys wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer adeilad newydd i ddisgyblion Ysgol Dafydd Llwyd yn Y Drenewydd.

Ysgol newydd Dafydd LlwydFfynhonnell y llun, Powys council
Disgrifiad o’r llun,
Bydd gan ddisgyblion Ysgol Dafydd Llwyd adeilad newydd yn 2016

Disgwylir i'r ysgol gynradd newydd fod yn agored i ddisgyblion yn 2016. Yn ôl y Cyngor mae'r adeilad presennol yn llawn ac roedd angen gwella cyflwr yr adeilad.

Bydd yr ysgol yn addysgu 300 o ddisgyblion ar y safle newydd, wrth ymyl Ysgol Uwchradd y Drenewydd.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys adnoddau ar gyfer plant sydd ag anghenion addysgol arbennig, a chyfleusterau ar gyfer addysg gymunedol i oedolion.

Dywedodd aelod Cabinet Cyngor Powys ar gyfer addysg, Myfanwy Alexander, ei bod yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyfrannu rhagor na hanner cost y prosiect £8.1 miliwn.

Dywedodd "Er nad yw'r cyngor wedi derbyn cadarnhad llawn gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â lefel y cyllido, mae ein cais strategol amlinellol wedi cael ei dderbyn.

Mae hyn yn golygu y gallwn ddechrau gwaith ar y safle yn ystod Gorffennaf ac Awst pan fydd yr ysgol uwchradd ar gau.

Fe all hyn olygu hefyd ein bod yn dechrau'r gwaith yn gynnar er mwyn cyrraedd targed o agor yr adeilad yn Ionawr 2016".