Canllawiau nyrsio newydd - Llywodraeth Cymru i ymateb
- Cyhoeddwyd

Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi a fydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn mabwysiadu canllawiau newydd ynglŷn â gwella gofal nyrsio.
Mae NICE, y corff sydd yn arolygu safonau iechyd a gofal, wedi darparu cyngor newydd i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
Mae'r canllawiau drafft yn awgrymu y gallai cleifion wynebu risg o niwed os yw nyrsys yn gofalu am ragor nag wyth claf yr un.
Fe ofynwyd i NICE adolygu'r canllawiau gan weinidogion yn San Steffan,
Yn benodol fe ddaeth addewid gan weinidogion i edrych ar y mater ar ôl yr ymchwiliad cyhoeddus i sgandal Ysbyty Stafford. Hefyd bu nifer o bryderon am safon gofal nyrsio mewn sawl ysbyty yng Nghymru a Lloegr.
Yn ôl yr adroddiad fe ddylai ysbytai sydd ddim yn darparu o leiaf un nyrs i bob wyth claf, fod yn medru egluro pam.
Llywodraeth Cymru i edrych yn ofalus
Yng Nghymru mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i'r adroddiad.
Dywedodd llefarydd bod y canllawiau presennol ar gyfer Lloegr ond fe fydd gan weinidogion yng Nghaerdydd ddiddordeb yn yr adroddiad.
" Fe fyddwn yn manteisio ar y cyfle i edrych ar yr argymhellion. Mae gennym ymrwymiad cadarn i sicrhau gofal sy'n ddiogel ac o safon uchel i gleifion yng Nghymru. Mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi trafod y mater â NICE ac mae wedi cynnig darlun o'n profiadau ni o ddatblygu teclyn craffu cleifion ysbyty ar gyfer Cymru. "
"Mae buddsoddiad parhaus yn y Gwasanaeth Iechyd yn golygu bod nifer y nyrsys yn ysbytai Cymru wedi cynyddu bob blwyddyn rhwng 1999 a 2012. Fodd bynnag 'dyn ni ddim yn hunanfodlon ac rydym wedi buddsoddi £10miliwn ychwanegol yn 2013-14 er mwyn cyflogi rhagor o nyrsys."