Tan i ystyried troi'r Adar Gleision 'nôl yn las

  • Cyhoeddwyd
Vincent Tan
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y dyn busnes o Malaysia nad oedd ganddo fwriad i droi ei gefn ar y clwb: "Dwi ddim yn un i roi'r gorau iddi," meddai.

Mae perchennog clwb pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan, wedi dweud am y tro cyntaf ei fod yn fodlon ailystyried newid lliwiau'r clwb, unwaith y byddan nhw'n dychwelyd i'r Uwch Gynghrair.

Mae'n ddiwrnod trist i filoedd gefnogwyr pêl-droed Caerdydd, gan y byddan nhw'n chwarae eu gêm olaf yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sul.

Fe allai fod yn ddiwrnod anodd arall. Chelsea fydd y gwrthwynebwyr heddiw yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ac ar ôl tymor siomedig, bydd cefnogwyr y tîm yn sicr o barhau â'u protestiadau swnllyd yn erbyn perchennog dadleuol y clwb, Vincent Tan.

Bnawn Sadwrn, dywedodd y dyn busnes o Malaysia nad oedd ganddo fwriad i droi ei gefn ar y clwb: "Dwi ddim yn un i roi'r gorau iddi," meddai. "Fe wnai aros tan y codwn ein hunain i fyny ac yna, fe gawn ni weld prun ai allwn ni weithio rhywbeth allan am y newid lliw 'ma a chyfaddawdu. Os gallwn ni, efallai wnai aros am amser hir."

Dywedodd hefyd ei fod:

Ond y datblygiad mwyaf arwyddocaol ydi agwedd Tan tuag at liwiau'r clwb.

Disgrifiad o’r llun,
Cefnogwyr Caerdydd yn dathlu cyrraedd yr Uwch Gynghrair

Roedd ei benderfyniad yn 2012 i newid lliw crys yr Adar Gleision o'r glas traddodiadol i goch, sydd mae'n debyg yn liw lwcus yn Asia, wedi wynebu cryn feirniadaeth.

Mae cefnogwyr wedi gwrthwynebu ailfrandio'r clwb, ac wedi bod yn cynnal protestiadau ac yn fwy diweddar, ysgrifennu graffiti ar fynedfa'r stadiwm.

Ond bnawn Sadwrn, dywedodd Vincent Tan: "Dewch i ni ddychwelyd i'r Uwch Gynghrair yn gyntaf ac unwaith y byddwn ni yna, dwi am sicrhau ffans, Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr ac ati, y byddai'n eistedd i lawr gyda nhw a dod o hyd i ateb fydd, gobeithio, yn dderbyniol i bawb - iddyn nhw ac i fi hefyd. Efallai gallwn ni gyfaddawdu.

Cefnogwyr am ddychwelyd i las ar unwaith

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd wedi ymateb.

Dywedodd eu cadeirydd, Tim Hartley, ei fod yn dda i glywed bod Mr Tan wedi'i ymrwymo i Gaerdydd a bod "ei gynnig i ddychwelyd i las petai Dinas Caerdydd yn dychwelyd i'r Uwch Gynghrair yn cael ei groesawu ond does dim rheswm na fedr e wneud hynny nawr.

"Fe gymrodd hi 10 mlynedd i Gaerlyr ddychwelyd i'r Uwch Gynghrair a byddai'r rhan fwyaf o gefnogwyr yn hoffi gweld dychwelyd ar unwaith i'n lliwiau chwarae traddodiadol. Mi fyddai o fudd i'r clwb ac i Mr Tan i wneud hynny.

Ychwanegodd: "Fe fyddai cyhoeddi bod y glas yn cymeryd lle'r coch am dymor 2014-15 yn rhoi hwb i werthiant tocynnau a chrysau."

Mi groesawodd hefyd yr awgrym y bydd Mr Tan yn ystyried cael cynrychiolydd o blith y cefnogwyr ar ei fwrdd, ond ei fod yn siomedig na fyddai holl ddyledion y clwb yn cael ei drosi'n ecwiti, fel yr oedd wedi cael ei addo ddwy flynedd yn ôl ac mewn cyfarfod ym mis Mawrth, dywedodd Mr Hartley.

Gwerth economaidd

Fe allai methiant diweddar Caerdydd gael effaith ehangach.

Yn ôl Astudiaeth ddiweddar gan Ysgol Fusnes Caerdydd mae lle yn yr Uwch Gynghrair wedi helpu creu cymaint â 400 o swyddi ac wedi cyfrannu cymaint â £58miliwn i'r economi leol. Mae arbenigwyr yn cytuno fodd bynnag bod mesur effeithiau eraill - fel marchnata enw dinas a chodi proffil yn rhyngwladol yn anoddach i'w fesur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Caerdydd ar waelod yr Uwch Gynghrair

Disgwylir i Gaerdydd - fel pob tîm arall fydd yn disgyn i'r gynghrair is - dderbyn taliadau arbennig gan yr Uwch Gynghrair er mwyn lleddfu'r boen.

Mae'r taliadau "parachute" yma yn £60 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd.

Fe ddylai hyn fod o gymorth i dalu cyflogau enfawr y chwaraewyr - cost uchaf pob un o'r clybiau mawr - wrth i'r busnes addasu i'w hamgylchiadau newydd.

"Gwobrwyo methiant"

Mae llawer yn anghytuno a'r taliadau yma. Pan gyhoeddwyd maint y taliadau ar gyfer 2014, fe ddisgrifiodd un rheolwr y sefyllfa fel "gwobrwyo methiant".

Bwriad y clwb fydd ceisio dychwelyd yn ôl mor fuan â phosib. Ond mae'r Bencampwriaeth yn gystadleuol iawn, ac mae'n llawn clybiau uchelgeisiol eraill fel Bolton, Blackburn a Leeds - heb son am Fulham a Norwich.

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cefnogwyr wedi protestio drwy'r tymor yn erbyn y perchennog Vincent Tan

Fe ddywedodd yr arbenigwr ar gyllid peldroed Rob Wilson o Brifysgol Sheffield Hallam wrth y BBC:

"Fe ddylai'r taliad uwch helpu tîm i gyfarwyddo â bywyd yn y Bencampwriaeth. Ond hefyd fydd e'n gwneud pethau yn anoddach i glybiau eraill y Bencampwriaeth."

Efallai bod ganddynt fantais ariannol, ond mae'n sicr o fod yn flwyddyn anodd arall i'r Adar Gleision.