Tân Ynysybwl: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae dynes 28 oed wedi cael ei harestio yn dilyn marwolaeth dyn 46 oed mewn tân mewn fflat yn Ynysybwl, Pontypridd.
Bu farw'r gŵr yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Dydy o heb gael ei adnabod yn ffurfiol a bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal heddiw.
Mae dynes 28 oed o ardal Abertawe yn parhau yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd wedi'i harestio o dan amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Roedd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i dân mewn bloc o fflatiau ar Heol Newydd, Ynysybwl, am 8.25 nos Wener.
Sioc trigolion lleol
Dywedodd gwraig oedrannus sy'n byw gyferbyn y fflatiau ei bod wedi agor ei drws ffrynt a gweld mwg ofnadwy yn dod o dros y ffordd.
Mae trigolion lleol yn dweud eu bod wedi cael sioc o glywed bod rhywun wedi marw yn y tân.
Dywedodd dyn mewn ty cyfagos: "Yn aml, mae 'na broblemau gyda sŵn a gyda phobl yn gweiddi o'r fflatiau yna. Felly, pan glywais i'r seirenau, wnes i ddim meddwl llawer am y peth.
"Pan sylwais i ar y tân, fodd bynnag, fe sylweddolais bod pethau'n reit ddrwg. Ac yna'r bore ma, fe rois i'r teledu ymlaen a chlywed bod dyn wedi marw. "
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r amgylchiadau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Lewis: "Mae hyn yn amlwg yn ddigwyddiad brawychus ond fe hoffwn dawelu meddwl cymuned Ynysybwl ein bod yn cynnal ymchwiliad trylwyr a bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal yn ystod y diwrnodau nesaf."
Apeliodd yr heddlu unwaith eto am wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad.