BBC Cymru Fyw

Dau berson wedi marw ar yr A40 ger Hwlffordd

Published
image captionMae'r A40 o Hwlffordd i San Cler bellach ar gau ym mhob cyfeiriad
Mae dau berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 y tu allan i Hwlffordd b'nawn Sadwrn.
Roedd dau gerbyd wedi gwrthdaro tua 3.50 b'nawn Sadwrn ar y ffordd tuag at San Cler.
Bu farw gyrrwr a theithiwr un cerbyd yn y fan a'r lle, ac fe gludwyd gyrrwr a theithiwr y car arall i'r ysbyty, un mewn cyflwr difrifol.
Mae'r A40 o Hwlffordd i San Cler bellach ar gau ym mhob cyfeiriad ac mae arwyddion i gyfeirio gyrrwyr at ffyrdd eraill.
Mae'n debygol o fod ar gau tan o leiaf ganol nos nos Sul.
Mae'r Heddlu yn galw am dystion i'r gwrthdrawiad i ffonio 101.