Rali merched ysgol Nigeria
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd rali ei chynnal yng Nghaerdydd i dynnu sylw at achos y 200 a mwy o ferched ysgol sydd wedi cael eu herwgipio yn Nigeria.
Roedd oddeutu 50 o bobl wedi cymeryd rhan yn yr ormdaith drwy Heol y Frenhines yng Nghaerdydd, oedd wedi'i threfnu gan 'Dewch â'n Merched yn ôl - Cymru'.
Mae grwp militaraidd islamaidd, Boko Haram, wedi dweud mai nhw sy'n gyfrifol am gipio'r merched o'u hysgol breswyl ym mis Ebrill.
Bwriad y rali yw cynyddu'r gefnogaeth a rhoi pwysau ar lywodraethau i helpu.
Roedd gorymdaith debyg wedi'i chynnal yng nghanol tref Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Roedd y merched wedi cael eu cipio o'u hysgol yn Chibok yn ystod y nos ar Ebrill 14.
Mae Boko Haram yn dweud na ddylai'r merched fod yn yr ysgol ac y dylen nhw briodi yn lle. Mae nhw wedi bygwth gwerthu'r disgyblion.
Mae enw'r grwp yn golygu "gwaharddir addysg gorllewinol" yn iaith Hausa.
Mae'r herwgipio wedi cael ei feirniadu ar draws y byd, ac mae ymgyrch 'Dewch â'n merched yn ôl' wedi'i lawnsio ar wefannau cymdeithasol ym Mhrydain.
Dydd Sadwrn, roedd Michelle Obaba wedi dweud ei bod hi ac Arlywydd America, Barack Obama, "wedi'u cythruddo ac yn dorcalonnus" am yr herwgipio.
Mae arbenigwr o Brydain ac America, gan gynnwys cynghorwyr militaraidd a thrafodwyr wedi cyrraedd Nigeria ddydd Gwener i geisio helpu dod o hyd i'r merched.
Mae Cymdeithas Nigeria Cymru hefyd yn trefnu gorymdaith ddydd Iau o ganol Caerdydd i adeilad y Senedd yn y Bae
Dywedodd eu llefarydd Kolawole Ponnle bod yr herwgipio yn "sefyllfa ddychrynllyd".
Fe ychwanegodd: "Be rydym ni am ei wneud ydi peidio cadw'n dawel, achos mae pobl o Nigeria wedi priodi i mewn i'r gymuned Gymreig ac mae ganddom ni blant sy'n tyfu fyny yng Nghymru, ac yn ceisio sefydlu hunaniaeth yma yn ogystal ag adref".
Dywedodd ei fod am i'r brotest gael ei "chlywed ar draws y byd."