Hofrennydd yn achub dyn yn Ne Eryri
- Cyhoeddwyd

Roedd yn rhaid i hofrennydd yr RAF lanio gan bod gwyntoedd cryfion wedi'i gwneud hi'n amhosib iddyn nhw achub drwy ddefnyddio winsh.
Fe gafodd dyn 28 oed ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd wedi iddo gwympo ymysg rhaeadrau yn Ne Eryri.
Roedd y dyn 28 oed o Lundain ymysg grwp o 11 o bobl oedd yn crwydro drwy'r ceunentydd a'r rhaeadrau ar yr afon Llaethnant uwchlaw'r Ddyfi yn ardal Dinas Mawddwy ddydd Sadwrn.
Roedd wedi syrthio i lawr ochr llethr i mewn i bwll yn yr afon ac roedd amheuon ei fod wedi torri asgwrn ei glun.
Bu'n rhaid i dîm achub Aberdyfi a hofrennydd yr RAF o'r Fali, Ynys Môn frwydro drwy'r tywydd echrydus i gyrraedd y dyn.
Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor i gael triniaeth.
Yn gynharach ddydd Sadwrn, fe gafodd dynes ei chudo mewn hofrennydd oddi ar yr Wyddfa, yn dioddef o hypothermia.