Tân mewn siop yn Llanberis
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaethau tân ac achub y gogledd yn delio gyda thân mewn siop ar stryd fawr Llanberis.

Fe gawson nhw'u galw toc cyn deg y bore.
Roedd pedair injan wedi cael eu galw i'r safe - dwy o Fangor a dwy o Gaernarfon - ac mae dwy yn parhau yno ar hyn o bryd, canol prynhawn Sul.
Dydy hi ddim yn glir a ydi'r tân yn dal i losgi.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau mai siop sglodion oedd hon.
Dydyd achos y tân ddim yn un amheus.
Chafodd neb eu hanafu.