Sunderland 1 - 3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Sunderland 1 - 3 Abertawe

Abertawe yn curo Sunderland yn ngêm gyntaf y rheolwr newydd parhaol wrth y llyw.

Dydd Mercher, fe gadarnhaodd Clwb Pêl-droed Abertawe mai Garry Monk fydd rheolwr newydd parhaol y clwb.

Roedd gôl gynnar i osod Abertawe ar y blaen, gyda Nathan Dyer yn saethu o'r canol i gornel chwith y rhwyd.

O fewn y chwarter awr cyntaf, roedd ergyd Martin Emnes i'r gornel dde waelod wedi sicrhau bod Abertawe yn gyfforddus gyda'r sgôr ar yr egwyl.

Ond fe darodd Sunderland yn ôl o fewn pum munud yn yr ail hanner gyda gôl gan Fabio Borini.

Ond fe sicrhaodd Wilfried Bony bod Abertawe â mantais glir unwaith eto gyda'i bumed gôl ar hugain o'r tymor.

Mae buddugoliaeth Abertawe yn ganlyniad gwych i groesawu penodiad Garry Monk fel rheolwr y clwb yn barhaol.

Mae Monk wedi bod yng ngofal y tîm dros dro ers i Michael Laudrup gael ei ddiswyddo ym mis Chwefror.