Tân Ynysybwl: Cadw yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd
Tan Ynysybwl

Mae menyw 28 oed wedi ymddangos mewn llys i wynebu cyhuddiad o ddynladdiad ac o gynnau tân gan beryglu bywydau eraill.

Daw'r ymddangosiad yn dilyn ta mewn fflat yn Ynysybwl ger Pontypridd nhoes Wener pan fu farw dyn 46 oed.

Cafodd y dyn ei achub o'r tân, ond bu farw'n ddiweddarach yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Cafodd Rebecca Joanne Jenkins, o ardal Penlan o ddinas Abertawe, ei chadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 27 Mai.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar y dyn, a chanfod ei fod wedi diodde' o effeithiau anadlu mwg. Nid yw'r corff eto wedi cael ei adnabod yn ffurfiol.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r amgylchiadau.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Lewis: "Hoffwn ddiolch i gymuned Ynysybwl am gynorthwyo'r ymchwiliad hyd yma a byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth mewn perthynas â'r digwyddiad yma i gysylltu gyda Heddlu'r De ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111."