Galw am gefnogaeth i athrawon llanw
- Cyhoeddwyd

Mae angen gwneud mwy i sicrhau nad yw addysg plant yn diodde' pan mae athrawon yn absennol, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn dweud nad yw gwersi gan athrawon llanw'n cael eu gwerthuso'n iawn.
Mae'n argymell monitro gwell o athrawon llawn, a'u bod yn derbyn mwy o hyfforddiant a chefnogaeth.
Fe ddywed yr adroddiad hefyd bod angen i benaethiaid reoli absenoldeb athrawon yn well.
Cafodd ymchwiliad ei lansio gan y pwyllgor yn dilyn dau adroddiad y llynedd a ddywedodd bod dibyniaeth ar athrawon llanw yn aml yn golygu bod plant yn cael gwaith i'w wneud oedd ddim yn ddigon heriol.
Mae'r pwyllgor nawr wedi llunio 14 o argymhellion i Lywodraeth Cymru gyda'r nod o wella'r sefyllfa.
Maen nhw'n cynnwys rhoi hyfforddiant datblygu proffesiynol i athrawon llanw er mwyn sicrhau bod plant yn derbyn safon uchel a chyson o addysg, ynghyd â hyfforddiant i benaethiaid ar sut i reoli absenoldeb o ddosbarthiadau.
Dywedodd yr adroddiad hefyd bod angen adolygu rheolau sy'n gofyn i athrawon adael yr ystafell ddosbarth y fynychu digwyddiadau sy'n ymwneud â pholisïau Llywodraeth Cymru, a bod angen monitro gwell i sicrhau bod ysgolion yn cael gwerth am arian gan athrawon llanw pan fod eu hangen.
'Cynnal safonau'
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Darren Millar AC: "Does yr un athro yn cerdded i mewn i ddosbarth gyda'r bwriad o roi safon wael o addysg, ond mae athro sy'n gorfod llenwi cyfnod o absenoldeb yn aml yn gorfod addasu ar fyr rybudd i amgylchiadau a dysgwyr gwahanol wrth geisio parhau gyda gwaith yr athro parhaol.
"Mae'n syndod felly nad oes data ar absenoldeb a llanw yn cael ei gasglu'r rheolaidd er mwyn rhoi darlun manwl o effaith hyd ar safonau addysgol, ac rydym yn nodi cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru fod angen gwneud mwy yn y maes yma.
"Rydym hefyd am weld cefnogaeth well i lywodraethwyr ysgolion, penaethiaid ac athrawon llanw, gan gynnwys gwell mynediad at hyfforddiant proffesiynol perthnasol er mwyn cynnal safonau i'r hyn y dylai ein plant ei ddisgwyl."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb maes o law.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd17 Medi 2013