224 o swyddi i Ferthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd
Tenneco TredegarFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cwmni'n cyflogi 190 yn Nhredegar ar hyn o bryd

Fe ddywed y Gweinidog Busnes Edwina Hart y bydd 224 o swyddi'n cael eu creu ym Merthyr Tudful gan gwmni Tenneco-Walker.

Mae'r cwmni'n cyflogi 190 ar hyn o bryd yn eu ffatri yn Nhredegar, ac fe fydd buddsoddiad yn arwain at agor ail safle yn Nowlais Top ger Merthyr.

Mae'r cwmni'n cynhyrchu systemau ecsôst i geir.

Yn ôl Ms Hart roedd arian gan Lywodraeth Cymru yn allweddol er mwyn denu'r buddsoddiad.

Dywedodd: "Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig eithriadol i Gymru ac i Ferthyr Tudful. Bydd yn rhoi hwb sylweddol i'r economi leol ac yn creu dros 220 o swyddi â sgiliau i'r bobl leol yn un o'r sectorau economaidd yr ydyn ni'n rhoi blaenoriaeth iddynt.

"Bydd y buddsoddiad hwn, gwerth miliynau, yn helpu hefyd i sicrhau dyfodol y cwmni ar gyfer yr hir dymor yng Nghymru ac yn creu manteision economaidd i fusnesau'r ardal."

Fe ddaw'r buddsoddiad wedi i Tenneco-Walker ennill cytundebau i gyflenwi systemau i nifer o wneuthurwyr ceir yn y DU gan gynnwys General Motors, Jaguar Land Rover, Renault a Nissan.

Bydd y cwmni'n ehangu gan greu ffatri newydd ger Merthyr a datblygu'r safle i fod yn adnod warws yn ogystal.