Damwain farwol: Teyrnged

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cwpwl gafodd eu lladd mewn damwain ffordd ar yr A40 ger Hwlffordd ddydd Sadwrn.

Roedd Ian Richards a'i wraig Shirley yn aelodau amlwg o Gymdeithas Gwenyn Sir Benfro.

Fe wnaeth y Gymdethas gyhoeddi teyrnged ar eu gwefan ddydd Llun gan ddweud fod y ddau wedi bod yn aelodau gweithgar o'r mudiad am nifer o flynyddoedd.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd tua 3.50pm ar y ffordd tuag at San Cler.

Fe aed â gyrrwr a theithiwr y car arall i'r ysbyty, un mewn cyflwr difrifol.