Dirwy ar ôl marwolaeth adeiladwr
- Cyhoeddwyd

Mae ffarmwr o Dalgarreg, Ceredigion, wedi cael dirwy o £20,000 a gorchymyn i dalu costau o £15,000 wedi i adeiladwr gael ei ladd ar ôl syrthio drwy do beudy.
Roedd Aled Evans, 43 oed o fferm Rhydysais, wedi pledio'n euog i dorri rheolau Iechyd a Diogelwch.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Ronald Douglas Clarke, 59 oed, a'i ddau fab yn gweithio ar do'r adeilad ar Orffennaf 23, 2010.
Fe wnaeth Mr Clarke syrthio 15 troedfedd a glanio ar lawr concrid.
Roedd Evans yn y llys yn cynrychioli partneriaeth busnes y fferm, partneriaeth sy'n cynnwys ei wraig Glenys a'i fam Margaret.
Dim rhwydi diogelwch
Dywedodd yr erlynydd, Carl Harrison, fod Evans wedi cyflogi Mr Clarke ar ôl derbyn cerdyn busnes mewn tafarn.
Roedd Mr Clarke wedi sicrhau'r diffynnydd ei fod yn arbenigwr ar atgyweirio toeau.
Ond yn ôl yr erlyniad fe ddylai Evans wedi sylweddoli fod rhywbeth o'i le pan gafodd amcangyfrif o £1,700 ar gyfer y gwaith.
Roedd contractwr proffesiynol wedi rhoi amcangyfrif o £10,000 ar gyfer y gwaith.
Clywodd y llys nad oedd unrhyw rwydi diogelwch wedi eu gosod ar gyfer y gwaith.
Dywedodd yr erlyniad y dylai'r diffynnydd wedi atal y gwaith unwaith fod y diffyg mesurau diogelwch wedi dod i'r amlwg.
Tair blynedd i dalu
Dywedodd Mr Simon Morgan, ar ran yr amddiffyniad, fod ei gleient wedi gwneud camgymeriad - ond nid oedd hynny er mwyn elw.
"Wrth edrych yn ôl mae'n hawdd bod yn feirniadol, ond mae'n rhaid byw yn y byd go iawn. Mae'r diffynnydd wedi derbyn ei fethiannau.
"Doedd ganddo ddim syniad beth oedd cost y gwaith i fod. Doedd hyn ddim yn fater o arbed arian drwy dorri ar gostau.
Fe wnaeth y barnwr roi tair blynedd i Evans dalu'r ddirwy a'r costau.
Fe wnaeth cwest ym mis Ebrill 2011 gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.