80 o swyddi yn dod i Barc Busnes Penarlâg
- Cyhoeddwyd

Bydd 80 o swyddi yn cael eu creu ar Barc busnes Penarlâg pan ddaw cwmni Gwyddelig sy'n cynhyrchu nwyddau gwydr i'r safle.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Carey Glass o Iwerddon yn symud i ffatri yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.
Bwriad y cwmni yw llogi uned 80,000 troedfedd sgwâr er mwyn cyflenwi marchnadoedd y DU ac Ewrop.
Yn ôl Carey Glass bydd y ffatri yn prosesu gwydr fflat ar gyfer prosiectau adeiladu mawr megis, prifysgolion, swyddfeydd, meysydd awyr a thai newydd.
Meddai Bill Carey, rheolwr gyfarwyddwr Carey Glass: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.
"Mae bod yng nghanol ardal gweithgynhyrchu, yn golygu bod modd i ni roi gwell gwasanaethu i'n cwsmeriaid yn y DU. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau recriwtio yn ystod yr wythnosau nesaf."
Manteision eraill
Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: "Dyma hwb arall i Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy a'r sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch.
"Ar wahân i greu swyddi newydd, bydd y ganolfan newydd hefyd yn creu manteision anuniongyrchol i'r ardal leol o ran y gadwyn gyflenwi."
Sefydlwyd Carey Glass yn 1965 ac mae'n cyflogi 525 o staff ar hyn o bryd rhwng dau safle - un yn Sir Tipperary yng Ngweriniaeth a'r llall yn Lurgan, Gogledd Iwerddon.