BBC yn derbyn cwynion am ddarllediad Britain First
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC wedi derbyn bron i 100 o gŵynion am ddarllediad etholiadol a ddangoswyd ar y teledu ar nos Wener, 9 Mai.
Hyd yn hyn mae Ofcom y rheoleiddwyr darlledu yn y DU yn dweud eu bod wedi derbyn naw cwyn am ddarllediad y blaid wleidyddol Britain First. Ond nid ydynt wedi penderfynu eto os byddan nhw'n ymchwilio i'r cwynion sy'n cyhuddo'r darllediad o fod yn hiliol.
Dywedodd y BBC ei fod yn gyfrifoldeb arnynt i roi amser darlledu i bleidiau sydd wedi eu cofrestru yn swyddogol ac yn gymwys i wneud darllediad.
Meddai llefarydd ar ran y BBC: "Mae'n ofynnol i'r BBC roi amser darlledu ar gyfer Darllediadau Etholiadol."
"Pleidiau gwleidyddol sydd yn gyfrifol am gynnwys eu darllediadau a nhw sydd yn talu am eu cynhyrchu.
"Mae rhaid i ddarllediadau gwleidyddol gyd-ymffurfio gyda'r gyfraith a chanllawiau a rheolau darlledu priodol, ond ar wahân i hynny, nid oes gan y darlledwyr unrhyw ddylanwad ar y cynnwys."
"Mae'n bwysig egluro fod y darllediadau yn cael eu cynhyrchu yn annibynnol gan y pleidiau gwleidyddol, ac nad yw'r ffaith eu bod yn cael eu darlledu yn awgrymu fod y BBC yn cefnogi neu'n cymeradwyo'r cynnwys."
"Ymddiriedolaeth y BBC sydd yn gosod y criteria ar gyfer dosraniad darllediadau etholiadol gan y BBC ar adeg etholiad.
"Mae Britain First yn blaid wleidyddol sydd wedi ei chofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol ac mae'r blaid yn gymwys i dderbyn darllediad yng Nghymru gan fod ganddi restr lawn o ymgeiswyr yng Nghymru ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd."
Straeon perthnasol
- 25 Ebrill 2014
- 28 Ebrill 2014