Gyrrwr Porsche o Gaeathro'n gwadu gyrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd
Mae dyn, gafodd ei ddal yn gyrru Porsche ar gyflymder o 111mya mewn parth 30mya, wedi gwadu gyrru yn beryglus.
Roedd Sean O'Grady, 24 o Gaeathro, Caernarfon, yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.
Clywodd y llys ei fod wedi ei ddal yn gyrru dros dair gwaith y terfyn cyflymder yn ei gar Porsche 911 ar yr A5 ym Mhorthaethwy ym mis Rhagfyr y llynedd.
Mae yn y ddalfa a bydd yn y llys ym mis Awst.
Straeon perthnasol
- 24 Mawrth 2014