Heddlu'n canfod merch fu ar goll
- Cyhoeddwyd

Roedd Bonnie Rose Clarke wedi bod ar goll am wythnos
Mae merch 14 oed fu ar goll o'r chartref yng Nghaerffili ddydd Llun diwethaf wedi cael ei chanfod yn ddiogel ac yn iach.
Roedd yr heddlu wedi apelio am wybodaeth wedi i Bonnie Rose Clarke ddiflannau o'i chartref yng Nghaerffili ar Fai 5.
Dywedodd Heddlu Gwent ddydd Llun eu bod wedi dod o hyd iddi yn fyw ac yn iach.