BBC yn derbyn cwynion am ddarllediad Britain First

  • Cyhoeddwyd
Britain First
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y BBC bron 100 o gwynion am ddarllediad gwleidyddol Britain First.

Mae'r BBC wedi derbyn bron 100 o gwynion am ddarllediad etholiadol plaid Britain First oedd ar y teledu nos Wener, Mai 9.

Hyd yn hyn mae Ofcom, rheoleiddwyr darlledu y DU, wedi derbyn naw cwyn am y darllediad ond nid ydyn nhw wedi penderfynu a fyddan nhw'n ymchwilio i honiadau bod y darllediad yn hiliol.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Mae'n ofynnol i ni roi amser darlledu i'r pleidiau ...

"Ond pleidiau gwleidyddol sy'n gyfrifol am gynnwys eu darllediadau a nhw sydd yn talu am eu cynhyrchu.

"Rhaid i ddarllediadau gwleidyddol ddilyn y ddeddf a chanllawiau a rheolau darlledu priodol ond ar wahân i hynny, nid oes gan y darlledwyr unrhyw ddylanwad ar y cynnwys."

Yn annibynnol

Roedd y darllediadau'n cael eu cynhyrchu yn annibynnol gan y pleidiau gwleidyddol, meddai, ac nid oedd y ffaith eu bod yn cael eu darlledu yn awgrymu bod y BBC yn cefnogi neu'n cymeradwyo'r cynnwys.

"Ymddiriedolaeth y BBC sydd yn gosod y meini prawf ar gyfer dosraniad darllediadau etholiadol gan y BBC ar adeg etholiad.

"Mae Britain First yn blaid wleidyddol sydd wedi ei chofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol ac mae'r blaid yn gymwys i dderbyn darllediad yng Nghymru gan fod ganddi restr lawn o ymgeiswyr yng Nghymru ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol