Cynllun troi hen westy'n ganolfan iechyd yn Llangollen
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi cytuno gwerthu hen westy River Lodge yn Llangollen i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Ond nid yw cost prynu'r adeilad wedi ei chytuno eto ac mae angen i Weinidog yr Economi, Edwina Hart, gadarnhau'r gwerthiant.
Bwriad y bwrdd iechyd yw lleoli canolfan iechyd yno ar gyfer y dref.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn croesawu'r newyddion ac yn edrych ymlaen at symud ymlaen gyda chamau nesaf prosiect Canolfan Adnoddau Gofal Sylfaenol ar gyfer Llangollen.
"Yn yr adeilad modern bydd nifer o wasanaethau mewn un lleoliad.
"Rydym yn awyddus i'r datblygiad gael ei orffen erbyn canol 2015 a byddwn yn dweud wrth bobl Llangollen a'r ardal sut mae'r datblygiad yn dod yn ei flaen."
Ychwanegodd y bwrdd iechyd eu bod yn disgwyl i waith papur y gwerthu gael ei orffen.
Mae datganiad ar wefan y llywodraeth yn dweud bod gan y gweinidog hawl i brynu a gwerthu tir a'u bod wedi gofyn i Ms Hart i gymeradwyo gwerthu River Lodge.
Gwastraff arian
Yn 2007 prynodd y llywodraeth y gwesty am £1.6m gyda'r bwriad o'i logi i fenter gymdeithasol ar gyfer ysgol crefftau ymladd.
y llynedd beirniadodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad y llywodraeth am "wastraffu arian" ac roedd awgrym nad oedd gwenidogion ar y pryd yn gwybod llawer am y prosiect.
Straeon perthnasol
- 3 Medi 2011
- 14 Mehefin 2012