Cyngor yn bwriadu gwerthu cartref preswyl yng Nghaergybi

  • Cyhoeddwyd
Cartref preswyl generic
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn bwriadu cau cartref preswyl yng Nghaergybi

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn bwriadu ymgynghori ar werthu un o'u cartrefi preswyl.

Fe fydd gofyn i aelodau'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol ar werthu cartref Carreglwyd yng Nghaergybi mewn cyfarfod ar 19 Mai.

Daw hyn lai na dwy flynedd ers yr ymgynghoriad diwethaf ar ddyfodol cartrefi preswyl ar yr ynys.

Os bydd y pwyllgor gwaith yn cytuno bydd ymgynghoriad 30 diwrnod yn digwydd. Fe allai'r cartref gael ei werthu gyda'r bwriad o gynnal cyfleuster arbenigol dementia yno. Opsiwn arall yw ei fod yn cael ei ddefnyddio fel darpariaeth nyrsio preifat neu ofal preswyl preifat.

"Gwasanaeth addas"

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, sydd yn gyfrifol am y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol: "Drwy drawsnewid gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion hŷn, ein nod yw sicrhau gwasanaethau sydd yn addas ar gyfer cenedlaethau i'r dyfodol.

"Mae pobl wedi gwneud hi'n glir yn ystod ymgynghori yn y gorffennol eu bod nhw eisiau bod yn annibynnol ac felly bydd rhaid i ni ddatblygu gwasanaethau cymunedol sydd ddigon cadarn i alluogi iddynt fyw gartref cyn hired â phosib."

"Bydd hyn yn galluogi i ni symud i ffwrdd o'n dibyniaeth ar ofal preswyl a sefydlu gwasanaethau modern eraill. Byddai gwerthu Carreglwyd yn cynrychioli'r cam sylweddol cyntaf i wireddu'r nod yma."

Cafodd y cartref ei adeiladu yn 1960 ac yna ei ail-adeiladu a'i ailagor yn 1991.

Mae yna 28 o welyau yng Ngharreglwyd ac mae 11 o breswylwyr tymor hir yno ar hyn o bryd.