Elusen yn gorfod atal grantiau wrth ddisgwyl penderfyniad
- Cyhoeddwyd

Mae elusen sydd yn helpu teuluoedd ar incwm isel sydd gyda phlant sâl neu anabl yn dweud ei bod nhw wedi gorfod atal y grantiau yng Nghymru am fod yna oedi wedi bod yn ei chyllideb.
Mae Family Fund fel arfer yn derbyn £2.6m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru. Ond dydyn nhw ddim wedi cael gwybod eto os y byddan nhw'n cael arian ar gyfer 2014/15.
Fis diwethaf, dywedodd gweinidogion yn Llundain, Belfast a Chaeredin y byddan nhw'n ariannu'r elusen eleni.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ebost i Family Fund eu bod nhw wedi 'ymrwymo' i'r elusen ond eu bod yn dal i aros am sêl bendith gan weinidogion ynglŷn â pharhau i roi'r un swm o arian i'r elusen a'r llynedd.
Grantiau
Mae Family Fund yn rhoi grantiau ar gyfer pethau fel peiriannau golchi, dillad, poptai, oergelloedd, gwyliau a chostau teithio i fynd i ysbytai.
Yn ôl y Prif Weithredwr, Cheryl Ward, maen nhw wedi derbyn 550 o ffurflenni cais gan deuluoedd yng Nghymru ac maen nhw'n disgwyl cyn medru eu cymeradwyo.
Ond nid oes modd gwneud hynny tan eu bod nhw'n cael penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r arian. Roedden nhw wedi disgwyl y penderfyniad ddechrau Ebrill.
"Bob dydd mae teuluoedd yn disgwyl diwrnod arall er mwyn cael eu heitemau," meddai Ms Ward.
"Mae'r rhain yn deuluoedd ar incwm isel felly yn aml does gyda nhw ddim ffordd arall o gael yr arian er mwyn medru talu'r costau.
"Rydyn ni angen cadarnhad o'n cyllid cyn gynted ac sy'n bosib fel ein bod ni'n medru parhau i gefnogi teuluoedd ar draws Cymru.
"Mae o yn boen meddwl pan mae teuluoedd yn cysylltu mewn angen mawr. Rydyn ni yn teimlo yn reit ddiymadferth."
Cafodd Family Fund ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl ac mae'n cael rhan fwyaf o'i harian yn uniongyrchol trwy grantiau gan y llywodraeth.
Ar wefan y gwasanaeth iechyd mae'r elusen yn cael ei disgrifio fel gwasanaeth sydd yn rhoi "cefnogaeth ymarferol" i ofalwyr.
Penderfynu yn fuan
Y llynedd cafodd Family Fund £2,641,000 gan Lywodraeth Cymru. Cafodd yr arian ei roi mewn grantiau i bron 5,000 o deuluoedd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth San Steffan yn cyfrannu £27,323,000 er mwyn helpu teuluoedd yn Lloegr. Dyma'r un swm a'r llynedd.
Mae Llywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd wedi cytuno i roi'r un faint o arian a wnaethon nhw yn 2013/14 sef £2,983,000 a £2,600,000.
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r oedi gan ddweud bod hyn yn annerbyniol pan mae'r tair llywodraeth arall wedi medru dod i benderfyniad.
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Rydyn ni mewn cysylltiad agos gyda Family Fund ac mi fydd yna benderfyniad ynglyn ac ariannu ar gyfer 2014/15 yn fuan iawn."