Pensiynwraig dlawd wedi ail ddefnyddio papur toiled
- Cyhoeddwyd

Roedd dynes 91 oed oedd mor dlawd ei bod yn sychu papur toiled a'i ail-ddefnyddio yn hawlio llai na hanner y budd-daliadau y gallai hi, yn ôl elusen.
Mae adroddiad gan Age Cymru yn dweud bod 50,000 o bobl hŷn yn byw mewn tlodi, gan fyw ar £183.50 yr wythnos neu lai.
Mae'r ddogfen hefyd yn dweud bod 42,000 o bobl hŷn wedi bod mewn dyledion yn y blynyddoedd diwethaf a bod pobl yn dewis torri nôl ar fwyd, gwres, trydan ac achlysuron cymdeithasol am eu bod yn poeni am y gost.
Yn ôl y gweinidog ar gyfer Cymunedau a Thaclo Tlodi Jeff Cuthbert, mae'r llywodraeth yn gweithio i helpu pobl hyn yng Nghymru.
Angen gwneud mwy
Mae Age Cymru yn dweud mai un o'r problemau yw nad ydy pobl hŷn yn hawlio budd-daliadau, a hynny am sawl rheswm fel eu bod yn rhy falch i wneud neu ddim yn gwybod sut i wneud.
Maen nhw fel elusen yn helpu pobl hŷn i gael yr arian ychwanegol.
Mae Age Cymru yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau'r cynllun Taclo Tlodi gafodd ei gyhoeddi yn 2012.
Nod y cynllun ydy cefnogi pobl ar incwm isel a cheisio lleihau effaith y newidiadau budd-dal. Ond mae'r elusen yn honni nad oes na dargedau penodol i helpu pobl hŷn.
"Mae Age Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddefnyddio cynllun Taclo Tlodi i gefnogi'r gwasanaethau hyn i wneud yn siwr bod help allweddol ar gael i bob person hŷn ar draws Cymru," meddai Graeme Francis o Age Cymru.
"Ddylai neb orfod wynebu ansawdd gwaeth yn ei safon byw pan maen nhw'n ymddeol neu orfod derbyn bod yn rhaid iddyn nhw wneud dewisiadau ynglŷn â phethau sylfaenol er mwyn cadw dau ben llinnyn ynghyd," ychwanegodd.
Tlodi yn flaenoriaeth
Mae'r adroddiad yn nodi bod angen gweithredu mewn chwe maes sef:
- cyngor a gwybodaeth ynglŷn â'r budd-daliadau sydd ar gael;
- prisiau ynni;
- twyll ariannol;
- costau trafnidiaeth gyhoeddus;
- costau gofal;
- cefnogaeth ar gyfer treth cyngor.
Mae'r gweinidog ar gyfer Cymunedau a Thaclo Tlodi Jeff Cuthbert yn dweud bod y llywodraeth yn gwneud ei gorau i helpu pobl sydd ar incwm isel.
"Enghreifftiau o'n gwaith yw creu swydd Comisiynydd pobl hŷn er mwyn rhoi llais i hawliau pobl hŷn, cyhoeddi grantiau pellach o £1 miliwn ar gyfer gwasanaethau rheng flaen a chynnig bws lleol am ddim i bobl hŷn ac anabl."
Ychwanegodd: "Ond rydyn ni yn cydnabod bod hi'n bwysig i weld lle mae na gyfleoedd newydd i daclo tlodi a gwella bywydau'r bobl sydd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf tlawd yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2014