£15.4m i wella trafnidiaeth a ffyrdd cerdded a beicio

  • Cyhoeddwyd
Seiclo
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r llywodraeth eisiau gwario arian i ddatblygu llwybrau beicio a cherdded

Mae £15.4m o arian wedi ei gyhoeddi er mwyn gwell trafnidiaeth gyhoeddus a ffyrdd i bobl gerdded a beicio.

O'r Gronfa Drafnidiaeth Leol mae'r pres wedi dod ac mi fydd ardaloedd ar draws Cymru yn elwa gyda 41 o brosiectau yn derbyn arian.

Cafodd y prosiectau llwyddiannus eu dewis gan y llywodraeth am y byddant yn dod a budd economaidd a'u bod yn hyrwyddo llwybrau beicio a cherdded.

Bydd nifer o gynlluniau yn derbyn arian, gan gynnwys:

  • £125,000 i ddatblygu rhwydwaith beicio ar Ffordd Penarth, Caerdydd,
  • £100,800 ar brosiect teithio yn Aberystwyth,
  • £420,000 i wella traffig a lleihau tagfeydd ar y B5129 yn Shotton,
  • £365,000 tuag at ddatblygu cynllun ffordd gyswllt Llangefni,
  • £160,000 at well rhwydweithiau beiciau i orsafoedd Aberdaugleddau a'r Wdig,
  • £200,000 i wella cyffordd y fynedfa i Ysbyty Wrecsam Maelor.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart y bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth i sawl ardal yng Nghymru.

"Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella trafnidiaeth gyhoeddus, cyfleusterau cerdded a beicio a llifau traffig mewn cymunedau ledled Cymru.

"Bydd y prosiectau a gafodd eu dewis yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran swyddi a thwf, trwy wella mynediad at Ardaloedd Menter, a gwella trafnidiaeth gyhoeddus i safleoedd cyflogaeth.

"Bydd eraill yn gwella mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau allweddol i'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, a bydd rhai'n annog teithio llesol a lleihau dibyniaeth ar y car am deithiau yn y gymuned."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol