Morgannwg ar y blaen o drwch blewyn

  • Cyhoeddwyd
Graham WaggFfynhonnell y llun, lmi photography

Morgannwg aeth a hi o drwch blewyn yn erbyn Hampshire ar ail ddiwrnod gêm gafodd ei effeithio gan law. Ond maen nhw'n wynebu gorfod sgorio cyfanswm uchel.

Ar ol ail ddechrau ar 119 - 1, fe gynyddodd Hampshire eu sgor er iddyn nhw golli Michael Carberry (66) a Liam Dawson (64) ar ôl safiad ail wiced o 108.

Cyrhaeddodd James Vince 50 yn rhwydd ond aeth allan coes o flaen i'r bowliwr Graeme Wagg wrth i Forgannwg eu ffrwyno.

Fe syrthiodd pedair wiced olaf y diwrnod am ddim ond 49 rhediad gan adael Hampshire ar 330 - 8 ar ddiwedd y chwarae sef mantais o 106. Wagg (3-103) a Jim Allenby (3-54) oedd dau fowliwr mwyaf llwyddiannus y clwb o Gymru gyda Tom Helm yn glos ar eu hol efo 2-69.